Mae ein rhaglenni sylfaen yn caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu’r sgiliau allweddol mewn byw’n annibynnol, iechyd a lles, cymuned a chyflogadwyedd trwy ddull sy’n canolbwyntio ar y person. Mae’r cyrsiau a gynigir yn llawn amser neu’n rhan-amser, ac mae gan y staff sy’n cyflwyno ystod eang o arbenigedd galwedigaethol yn ogystal â phrofiad helaeth o weithio gyda dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae pob cwrs yn cynnwys amserlen strwythuredig, cymorth astudio, ystafelloedd ymlacio/tawel, gweithgareddau cyfoethogi a chyflwyniad i fywyd Coleg ac addysg bellach.

Beth fydda i’n ei wneud?

Bydd myfyrwyr yn dilyn llwybr sy’n datblygu sgiliau cyfathrebu, llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol, ac o hyn daw hyder gwell a sgiliau personol, cymdeithasol ac emosiynol cryfach sy’n ofynnol ar gyfer dysgu a bywyd. Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol arnoch; dim ond awydd i gymryd rhan yn y gweithgareddau dysgu a gynigiwn. Mae’n bosibl rhoi cynnig ar lawer o bynciau gwahanol yn dibynnu ar eich diddordebau unigol. Mae hyn yn eich helpu i ddarganfod beth rydych chi’n ei fwynhau, beth rydych chi’n dda ynddo ac yn eich helpu gyda’ch dewisiadau yn y dyfodol. Gallwch weithio ar eich lefel a’ch cyflymder eich hun, ond mae cymorth ychwanegol ar gael fel rhan o’r cwrs a, thrwy gymorth dysgu a thiwtorialau, rydym yn gallu darparu ar gyfer ystod eang o anghenion. Mae ein staff yn athrawon cymwys, profiadol sydd â sgiliau arbenigol i gyflwyno’r cyrsiau a gynigir mewn amgylchedd cefnogol a gofalgar.

Rydym yn cynnal digwyddiadau cyflogadwyedd a dilyniant gyda chyflogwyr ac asiantaethau cymorth. Mae’r ysgol yn cynnal ystod o weithgareddau menter a gwirfoddoli ac yn annog myfyrwyr i gymryd rhan mewn amrywiaeth o gystadlaethau ar lefelau rhanbarthol a chenedlaethol, gan gynnwys Cystadleuaeth Sgiliau Cymru a thwrnameintiau chwaraeon ILS. Mae ein myfyrwyr yn creu siopau dros dro a mentrau symudol, ac rydym yn sicrhau bod myfyrwyr yn gwneud cysylltiadau â sefydliadau cyflogaeth â chymorth. Mae profiad gwaith hefyd wedi’i sefydlu trwy adran dysgu seiliedig ar waith y Coleg.

Mae myfyrwyr yn ymgymryd ag asesiad anghenion addysgol a sgiliau bywyd cychwynnol yn ystod y broses drawsnewid a sefydlu. Yna mae tiwtoriaid yn gweithio gyda myfyrwyr i nodi eu hamcanion tymor hir a thymor byr, ac yna cytunir ar dargedau a llwybrau addas ar gyfer dilyniant ac maent yn cael eu hadolygu ar adegau rheolaidd.

Dilyniant

Mae ein cyrsiau’n cynnig cyflwyniad i’r Coleg i ddysgwyr a chyfleoedd i roi cynnig ar wahanol feysydd galwedigaethol fel adeiladu, garddwriaeth ac arlwyo, lle gallant wedyn wneud penderfyniad gwybodus ar lwybrau dilyniant yn y dyfodol. Aeth dros 95% o fyfyrwyr ymlaen i gyrsiau astudiaethau sylfaen lefel uwch, cyrsiau coleg prif ffrwd, cyflogaeth â chymorth neu wasanaethau gwirfoddol.

Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL)

Os nad Saesneg yw eich prif iaith, gallwch ymuno â’n dosbarthiadau ESOL.

Gall dysgu Saesneg eich helpu i wneud ffrindiau, cael swydd, cael swydd well, helpu’ch plentyn gyda gwaith cartref, siarad â’ch meddyg, athrawon eich plentyn, a chymdogion, paratoi ar gyfer addysg bellach neu uwch a chymwysterau, a llawer mwy. Yn y DU, gelwir dosbarthiadau Saesneg i oedolion yn ‘ddosbarthiadau ESOL’. Mae ESOL yn sefyll am Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill. Rydym yn cynnal gwahanol ddosbarthiadau yn y gymuned o lefel dechreuwyr i lefel uwch.

Mae ein cyrsiau’n rhedeg yn ystod y dydd a’r nos ac mewn amrywiaeth o leoliadau cymunedol yng Nghastell-nedd Port Talbot a Phowys. Mae croeso i chi ymuno ar unrhyw adeg.

Mae cyrsiau ESOL yn cynnig y cyfle i wella’ch sgiliau siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu ar y lefel briodol.

  • Mynediad 1 – mae angen ychydig iawn o wybodaeth am yr Iaith Saesneg.
  • Mynediad 2 – mae angen rhywfaint o wybodaeth ymarferol am yr iaith Saesneg.
  • Mynediad 3 – dealltwriaeth dda o Saesneg llafar, darllen ac ysgrifennu, ond mae angen datblygu eu gramadeg a’u geirfa ymhellach.
  • Lefel 1/2 – dealltwriaeth dda iawn o Saesneg llafar, darllen ac ysgrifennu, ond mae angen datblygu eu gramadeg a’u geirfa ymhellach.

Cliciwch yma i gael gwybod mwy am ESOL

Cyrsiau
Gateway Celfyddydau Creadigol (Amser Llawn) - Addysg Bellach
Gateway Lefel 1 (Amser Llawn) - Addysg Bellach
Gateway Media a TG E3 (Amser Llawn) - Addysg Bellach
Lefel 1 Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gateway (Llawn Amser) - Addysg Bellach
Lefelau Lluosog Llawn Amser ESOL (Llawn Amser) - Addysg Bellach
Llwybr 2 a 3 – Cwrs yn seiliedig ar dargedau i wella sgiliau bywyd - Addysg Bellach
Mynediad Sylfaenol (Amser Llawn) - Addysg Bellach
Porth Cyffredinol E3 (Llawn-amser) - Addysg Bellach
Porth i Waith – Llwybr 4 (Llawn Amser) - Addysg Bellach
Porth Iechyd a Gofal Cymdeithasol E3 (Llawn Amser) - Addysg Bellach
Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) (Rhan-Amser) - Addysg Bellach
Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) (Rhan-Amser) - Addysg Bellach