Polisi Preifatrwydd Marchnata

Yn unol ag Erthygl 21 o’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), gallwch, ar unrhyw bryd, newid y fordd yr ydym yn cyfathrebu â chi, diweddaru’r wybodaeth yr ydym yn ei dal, tynnu’n ôl eich cysyniad a gofyn i’ch data gael ei ddileu. (“Where personal data are processed for direct marketing purposes, the data subject shall have the right to object at any time to processing of personal data concerning him or her for such marketing, which includes profiling to the extent that it is related to such direct marketing.”)

Cysylltwch â ni ar 0330 818 8100 os gwelwch yn dda neu marketing@nptcgroup.ac.uk i wneud hyn.  Os hoffech ddatdanysgrifio rhag derbyn ein negeseuon e-bost a anfonir gennym, gallwch wneud hyn drwy ddilyn y ddolen gyswllt ar waelod pob neges e-bost.

PA WYBODAETH YDYM YN EI CHASGLU?

Gallwn gasglu, storio a defnyddio’r mathau canlynol o ddata personol:

  • Gwybodaeth am eich cyfrifiadur ac am eich ymweliadau â’r wefan hon a’ch defnydd ohoni (gan gynnwys eich cyfeiriad IP, lleoliad daearyddol, math o borwr gwe, ffynhonnell atgyfeirio, hyd eich ymweliad a faint o weithiau yr ydych wedi edrych ar dudalennau);  Mae hyn yn cael ei gasglu drwy gyfrwng Google Analytics a phicseli tracio’r wefan.
  • Gwybodaeth eich bod yn ei darparu i ni at ddiben tanysgrifio i’n cylchlythyrau (gan gynnwys enw, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn, lleoliad, diddordebau o ran cyrsiau a champysau, sut glywsoch chi amdanom a gwybodaeth sy’n gysylltiedig ag ymgyrch neu ddigwyddiad penodol – h.y. sefydliad, swydd mewn sefydliad, rhif cerbyd, gofynion anabledd a gofynion deitegol arbennig.)
  • Gwybodaeth y byddwch chi’n ei darparu ar ein cyfer ni at ddiben cael ymateb gennym (gan gynnwys enw, cyfeiriad e-bost, enw cwmni, rhif ffôn, lleoliad, cwrs a chynnwys yr hyn a gyflwynir.)
  • Gweithgarwch a data ar y cyfryngau cymdeithasol sydd ar gael yn gyhoeddus. (Gallwch newid eich dewisiadau o ran hysbysebion o fewn i ‘apps’ y cyfryngau cymdeithasol drwy gyfrwng ‘Ads Setings’ neu opsiwn tebyg.)
  • Gwybodaeth a gasglir yn nigwyddiadau Grŵp Colegau NPTC at ddibenion cadw mewn cysylltiad (gan gynnwys: enw, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn, diddordebau o ran cwrs a champws a sut glywsoch amdanom.)
  • Unrhyw wybodaeth arall y byddwch yn dewis ei hanfon atom.
  • Byddwn dim ond yn casglu data sy’n angenrheidiol; at ddiben penodol a chyfreithiol.  Ni fydd data yn cael ei brosesu mewn unrhyw ddull nad yw’n cyd-fynd â’r diben hwn.

SUT YDYCH YN RHOI’CH CYSYNIAD?

  • Tanysgrifio i’n cylchlythyr.
  • Cyn-gofrestru am ddigwyddiadau Grŵp Colegau NPTC ar ein gwefan.  Gallai hyn fod drwy gyfrwng ffurflen ar-lein a gallech gael eich cyfeirio at y ffurflen hon drwy gyfrwng hysbysebion yn y cyfryngau cymdeithasol.
  • Arwyddo wrth fynychu digwyddiadau Grŵp Colegau NPTC.
  • Ticio’r blwch cysyniad marchnata yn Adran 1 o’r ffurflen gofrestru ac arwyddo’r ffurflen honno.

SUT YR YDYM YN DEFNYDDIO EICH GWYBODAETH

Trwy gydsynio i dderbyn gwybodaeth farchnata gan Grŵp Colegau NPTC (gan gynnwys cofrestru am ein cylchlythyr) rydych yn rhoi cydsyniad i ddefnyddio eich gwybodaeth yn y ffyrdd canlynol:

  • I anfon cylchlythyrau a chyfathrebiadau marchnata eraill atoch mewn perthynas â’n busnes, yr ydym ni’n meddwl y gallent fod o ddiddordeb i chi, trwy’r e-bost neu dechnoleg debyg.
  • Gall hyn gynnwys defnyddio marchnata wedi’i dargedu yn y cyfryngau cymdeithasol ar blatfformau megis; Facebook, Instagram, Twitter, LinkedIn, Snapchat, Google a YouTube.
  • I weinyddu’r wefan, gan gynnwys defnyddio picseli’r wefan. Mae picsel gwefan yn ein galluogi i gasglu gwybodaeth am ymwelwyr i’r wefan a’r camau a gymerwyd ganddynt fel y gallwn anfon yr hysbysebion mwyaf perthnasol atynt.
  • I greu cynulleidfaoedd wedi’u teilwra’n arbennig a chynulleidfaoedd copi er mwyn anfon hysbysebion wedi’u targedu trwy’r plafformau hyn.
  • I ymdrin ag ymholiadau a chwynion a wnaed gennych chi trwy ein gwefan a sianelau’r cyfryngau cymdeithasol. Rydym yn gofyn bod yr holl gwynion ffurfiol yn cael eu cyfleu i ni yn ysgrifenedig yn y lle cyntaf.
  • I gynnal ymchwil i’r farchnad, ymchwil gymdeithasol ac ymchwil i fodlonrwydd.

Sylwer: Byddwn yn gwneud pob ymdrech i deilwra ein cyfathrebiadau marchnata i’ch gofynion a’ch diddordebau chi ac ni fyddwn yn hysbysebu nwyddau a gwasanaethau gan gwmnïau 3ydd parti nad ydynt yn gysylltiedig.

Google/YouTube

Facebook

Instagram

Twitter

LinkedIn

Snapchat

Tik Tok

DotDigital

RHANNU GWYBODAETH

Hoffem eich sicrhau na fyddwn, dan unrhyw amgylchiadau, yn rhannu eich data gydag unrhyw un at ddibenion marchnata ac na fyddwch yn cael cynigion gan gwmnïau na sefydliadau eraill o ganlyniad i roi eich manylion i ni.

Efallai y bydd angen i ni rannu gwybodaeth gyfyngedig gyda’n darparwyr gwasanaethau sy’n ein helpu i baratoi ein cyfathrebiadau a’u hanfon atoch neu i brosesu eich rhoddion ac ymatebion eraill. Fodd bynnag, ni fyddwn yn caniatáu i’r sefydliadau hyn ddefnyddio eich data at eu dibenion hwy eu hunain a byddwn yn cymryd gofal i sicrhau eu bod yn cadw eich data’n ddiogel.

Os byddwn yn newid ein Polisi Preifatrwydd, byddwn yn rhoi’r newidiadau ar y dudalen hon er mwyn i chi fod yn ymwybodol ohonynt. Dylech wirio’r dudalen hon o bryd i’w gilydd i sicrhau eich bod yn hapus gydag unrhyw newidiadau.

Ni fyddwch byth yn dewis eich ymuno chi â rhywbeth yn ddiofyn.  Mae rhoi’ch caniatâd yn gofyn i chi gyflawni gweithred ( fel y tanlinellir uchod).  Byddwn bob amser yn sicrhau bod ein polisi preifatrwydd yn hygyrch mewn amgylchiadau lle yr ydym yn gofyn am gysyniad a byddwn yn pwysleisio hyn yn ein digwyddiadau.

Os byddwn yn newid ein Polisi Preifatrwydd, byddwn yn rhoi’r newidiadau hyn ar y dudalen hon er mwyn i chi fod yn ymwybodol ohonynt.  Dylech gael cip ar y dudalen hon o bryd i’w gilydd i sicrhau eich bod yn hapus gydag unrhyw newidiadau.