Mae gan yr Ysgol Iechyd, Cymdeithasol a Gofal Plant gyrsiau wedi’u cynllunio i ddiwallu anghenion y gymuned a pharatoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd yn y diwydiant poblogaidd hwn. Byddwch yn derbyn hyfforddiant sy’n gysylltiedig â gwaith, ac mae rhai cyrsiau’n eich asesu yn eich gweithle. Mae hyn yn golygu y byddwch yn ennill profiad yn y diwydiant sy’n hanfodol ar gyfer symud ymlaen i addysg uwch neu gyflogaeth, yn ogystal â’r cymwysterau cydnabyddedig sydd eu hangen ar gyfer gyrfa yn y diwydiant.
Mae angen sgiliau cyfathrebu cryf a natur ofalgar ar weithwyr gofal iechyd. Gellir cyflogi gweithwyr meithrin mewn meithrinfeydd dydd a chanolfannau plant neu ddod yn warchodwyr plant. Mae staff yn yr Ysgol Iechyd, Cymdeithasol a Gofal Plant yn arbenigwyr yn y diwydiant yn ogystal â darlithwyr. Mae ein darlithwyr cefnogol a gofalgar wedi ymrwymo i sicrhau bod myfyrwyr yn llwyddo.
Beth fydda i’n ei wneud?
Mae pob myfyriwr yn cwblhau lleoliad gwaith cysylltiedig sy’n canolbwyntio ar sgiliau cyflogadwyedd a gwella rhifedd a llythrennedd. Byddwch yn cael eich annog i gwblhau cwrs iaith Gymraeg ac i wella eich sgiliau rhyngbersonol trwy weithgareddau grŵp a digwyddiadau codi arian. Mae myfyrwyr hefyd yn ymgymryd â gwaith elusennol a chodi arian drwy gydol y flwyddyn ar gyfer achosion lleol a chenedlaethol.
Cyfleoedd Gyrfa
- Athro/Athrawes
- Cynorthwyydd Addysgu
- Ymarferydd Gofal Plant
- Therapydd Iaith a Lleferydd
- Nyrs
- Parafeddyg
- Gweithiwr Cymdeithasol
Mae llawer o fyfyrwyr hefyd yn symud ymlaen i raglenni gradd Iechyd, Cymdeithasol a Gofal Plant yn y Coleg cyn dechrau cyflogaeth.