#GraddauArGarregEichDrws

Croeso i’n Hyb Clirio 2023

Bob blwyddyn, mae miloedd o fyfyrwyr yn dod o hyd i’w cwrs delfrydol trwy Glirio.

Os ydych eisoes wedi gwneud cais trwy UCAS neu heb wneud cais eto ac yn aros am ganlyniadau cymhwyster i allu bodloni gofynion mynediad y cwrs, yna mae Clirio yn ffordd o sicrhau lle ar gymhwyster lefel prifysgol. Gallwch ddefnyddio Clirio os yw unrhyw un o’r rhain yn berthnasol i chi:

  • Heb y graddau sydd eu hangen ar gyfer eich dewisiadau cadarn neu yswiriant
  • Heb dderbyn unrhyw gynigion
  • Wedi newid eich meddwl am beth neu ble i astudio
  • Yn cyflwyno eich cais UCAS ar ôl 30 Mehefin

Fel arall, os nad ydych eisoes wedi gwneud cais trwy UCAS, dim ond eisiau gwneud cais i astudio yn y Coleg ac yn gallu bodloni gofynion mynediad eich cwrs, gallwch wneud cais unrhyw bryd trwy borth ymgeisio ar-lein y Coleg. Cliciwch ar ‘Gwneud Cais Nawr’ ar dudalen y cwrs.

Chwilio Cyrsiau

Pryd mae’r canlyniadau’n dod allan?

Diwrnod canlyniadau Safon Uwch yw 17 Awst 2023, er y bydd rhai canlyniadau ar gyfer cymwysterau eraill wedi bod ar gael yn gynharach.

Sut mae dod o hyd i le trwy Glirio?

Os nad ydych eisoes wedi gwneud cais trwy UCAS, yn gallu bodloni gofynion mynediad y cwrs a dim ond eisiau astudio yn y Coleg, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw clicio ar y botwm ‘Gwneud Cais Nawr‘ ar dudalen y cwrs a gwneud cais trwy ein porth ymgeisio ar-lein .

Os ydych chi’n ymgeisydd UCAS ac yn cael eich hun mewn Clirio, bydd angen i chi chwilio trwy’r tudalennau cwrs ar wefan Grŵp Colegau NPTC i ddod o hyd i’r cymhwyster cywir i chi, yna cysylltwch â ni i weld a allwn wneud cynnig i chi. Os byddwch yn derbyn cynnig gennym ni, bydd angen i chi ychwanegu hwn fel eich dewis trwy UCAS Track; dyma’r unig ffordd i gael cynnig Clirio swyddogol a ffurfiol.

Cysylltwch â Ni

Gallwn eich cefnogi drwy’r broses Glirio, ac os oes gennych unrhyw gwestiynau o gwbl, cysylltwch â’n tîm Derbyn ar 0330 818 8100 neu e-bostiwch: higher_education_enq@nptcgroup.ac.uk