Pan fyddwch yn ymuno â’n Alumni, rydych yn ymuno â chymuned fyd-eang sefydledig o gyn-fyfyrwyr, rhwydwaith parod o gysylltiadau a ffrindiau gydol oes.
Byddwch yn cael y cyfle i sefydlu cysylltiadau gwerthfawr, adeiladu perthnasoedd gwaith a meithrin cysylltiadau cymdeithasol rhyng-gysylltiedig.
COFRESTRWCH NEU MEWNGOFNODWCH
Cliciwch ar un o’r categorïau isod
Cylchlythyr
CYMRYD RHAN
Mae yna nifer o ffyrdd y gallwch elwa o fod yn rhan o’n cymuned o alumni, gan gynnwys cyfleoedd ar gyfer rhwydweithio a derbyn gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig y coleg. Mae llawer o ffyrdd y gallwch helpu i gefnogi ac ysbrydoli ein myfyrwyr presennol drwy wirfoddoli cymaint neu gyn lleied ag y dymunwch. Rhannwch eich stori am y llwybr y cymerasoch ar ôl coleg ac i lle mae hynny wedi dod â chi heddiw. Gall eich dylanwad a’ch cyngor fod yn amhrisiadwy i’n myfyrwyr. Dewch yn un o’n hastudiaethau achos ysbrydoledig heddiw.
- Digwyddiadau rhwydweithio
- Siaradwyr gwadd
- Cyfleoedd Datblygiad Proffesiynol
- Bod yn rhan o fideos Sgyrsiau Alumni
- Aduniadau
- Cylchlythyrau chwarterol ar-lein
- Aelodaeth o’r gymuned cyfryngau cymdeithasol
DECHREUWCH GYMHWYSTER NEWYDD
O Raddau ar Garreg eich Drws i amrywiaeth o gyrsiau rhan-amser i hybu’ch gyrfa, mae gennym ddewisiadau i chi.
YN MEDDWL AM DDECHRAU EICH BUSNES EICH HUN?
Rydym yn cynnig amgylchedd proffesiynol a chefnogol lle gall ein Alumni ddechrau eu busnes eu hunain. Gallwn ddarparu syniadau cychwyn busnes, mynediad at amrywiaeth o gyfleusterau am ddim a help gyda chyllid a mentora.
Ewch i Centerprise i gael gwybod rhagor
Cyn-fyfyrwyr Nodedig
- Michael Sheen OBE – Actor, Enillydd Gwobr BAFTA
- Yr Athro Geraint F. Lewis – Astroffisegydd enwog yn Sefydliad Astronomeg Sydney
- Lauren Drew – West End Star and The Voice 2021 Contestant
- Steve Balsamo – Canwr/Cyfansoddwr a Pherfformiwr yn y West End
- Rob Davies MBE – Enillydd Medal Aur mewn Tennis Bwrdd yn y Gemau Paralympaidd
- Nichola James – Cyn Chwaraewr Pêl-rwyd Rhyngwladol
- Lindsay Piper – Athletwr Pure Elite, MP, UKUP & GBO Pro. Pencampwr Cymru, Prydain a’r Byd
- Keira Bevan – Chwaraewr Rygbi Rhyngwladol
- Dan Lydiate – Chwaraewr Rygbi Ryngwladol Cymru/y Gweilch
- Adam Beard – Chwaraewr Rygbi Ryngwladol Cymru/y Gweilch
- Ben Davies – Chwaraewr Pêl-droed Rhyngwladol Cymru
- Joe Allen – Chwaraewr Pêl-droed Rhyngwladol Cymru
Sgyrsiau Alumni
Cliciwch ar y fideos isod i gael mewnwelediad i’n profiadau Alumni uchel ei barch ym myd addysg, a thu hwnt.