Mae Grŵp Colegau NPTC yn enwog am ei ragoriaeth ym maes celfyddydau coginio, arlwyo a lletygarwch. Mae bwyty hyfforddi, siop goffi a siop fara Blasus, yn fusnes realistig unigryw sydd wedi bod yn hyfforddi myfyrwyr ac yn gwasanaethu’r gymuned am fwy na mlynedd.

 

Mewn lleoliad cuddiedig ar Goleg Castell-nedd, gallwch fwynhau prynhawn neu noson o giniawa cain yn ein bwyty arobryn sy’n draddodiadol, ac eto’n gyfoes. Rydym yn darparu safonau uchel o ran lletygarwch proffesiynol ar gyfer ein myfyrwyr a’n gwesteion.

Mae ein lolfa goffi anffurfiol yn cynnig croeso cynnes a chyfeillgar lle gallwch eistedd ac ymlacio. Mae bwydlen y lolfa’n cynnig amrywiaeth o ddiodydd poeth, cacennau, byrbrydau a seigiau o’n “bwrdd dewisiadau arbennig”.

Nid oes angen cadw bwrdd yn ein lolfa goffi; gallwch alw heibio’n ddirybudd a mwynhau! Rydym yn gofyn i gwsmeriaid gadw bwrdd ymlaen llaw yn ein bwyty; mae croeso i chi ein ffonio yn y bore i weld beth sydd ar gael.  

Amseroedd Agor

Bwyty – Amser Cinio
Dydd Mercher, Dydd Iau a dydd Gwener 12 canol dydd

Bwyty – Amser Swper
Nos Fercher o 6pm (Yr amser hwyraf y gellir cadw bwrdd ar ei gyfer yw 7pm)

Lolfa Goffi
O ddydd Llun i ddydd Gwener 10am – 1.30pm