Mae myfyrwyr o’r cwrs Busnes Lefel 3 yng Ngholeg Y Drenewydd wedi profi bod ganddyn nhw’r rysáit berffaith ar gyfer llwyddiant ar ôl codi swm trawiadol o £313.21 ar gyfer yr elusen canser leol Lingen Davies trwy ddigwyddiad codi arian dan arweiniad myfyrwyr.
Fel rhan o’u hastudiaethau, cymerodd y darpar rheolwyr digwyddiadau gyfrifoldeb am gynllunio, trefnu a chyflwyno gwerthiant cacennau elusennol ar raddfa fawr. Gan weithio gyda’i gilydd fel tîm, dangosodd y myfyrwyr sgiliau trefnu, creadigrwydd a phenderfyniad rhagorol i sicrhau bod y digwyddiad yn llwyddiant.
Croesawodd cymuned y coleg yr ymdrech codi arian, gyda byrddau’n llawn danteithion cartref a chefnogwyr yn awyddus i gyfrannu at yr achos teilwng. Daeth y digwyddiad yn uchafbwynt ar y campws yn gyflym, gan ddenu staff a myfyrwyr fel ei gilydd a helpu i godi cyfanswm gwych i’r elusen.
O gydlynu logisteg a hyrwyddiadau i ddod o hyd i roddion a rheoli gwerthiannau, cafodd y myfyrwyr brofiad ymarferol gwerthfawr o reoli digwyddiadau wrth wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eu cymuned leol.
Dangosodd y digwyddiad codi arian llwyddiannus sgiliau a phroffesiynoldeb y myfyrwyr Busnes Lefel 3, a gyfunodd waith tîm, menter a brwdfrydedd i gyflwyno digwyddiad wnaeth rhagori ar y disgwyliadau.
Arweiniodd eu hymdrechion at rodd o £313.21 i Lingen Davies, gan gefnogi gwaith hanfodol yr elusen i unigolion a theuluoedd yr effeithir arnynt gan ganser ledled Canolbarth Cymru, Gogledd Powys a Swydd Amwythig.
Dywedodd y Darlithydd Busnes Harriet Bailey: “Roedd hwn yn gyflawniad gwych gan ein myfyrwyr Busnes Lefel 3. Fe wnaethon nhw ddangos cynllunio, cyfathrebu a gwaith tîm rhagorol drwy gydol y prosiect a dylent fod yn hynod falch o’r hyn a gyflawnwyd ganddynt. Mae codi dros £300 ar gyfer elusen leol mor bwysig yn ganlyniad gwych ac yn tynnu sylw at yr effaith gadarnhaol y gall ein myfyrwyr ei chael o fewn y gymuned.”