Mae’r cwrs Safon UG / Safon Uwch Bioleg yng Ngrŵp Colegau NPTC wedi’i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb mewn gwyddoniaeth a deall sut mae organebau byw yn gweithredu. Bydd myfyrwyr yn datblygu gwybodaeth am gysyniadau a phrosesau biolegol allweddol, tra hefyd yn ennill sgiliau dadansoddi ac ymarferol pwysig. Mae llawer o’r pynciau a astudir yn berthnasol i fywyd bob dydd gan helpu myfyrwyr i ddeall sut mae bioleg yn effeithio ar y byd o;u cwmpas a’u paratoi ar gyfer symud ymlaen i addysg uwch.
Fel arfer bydd angen 6 TGAU ar radd C neu uwch ar fyfyrwyr, gan gynnwys Saesneg. Argymhellir gradd B mewn Mathemateg TGAU ac mae angen gradd B mewn Gwyddoniaeth Ychwanegol neu Driphlyg Haen Uwch.
Mae’r cwrs hwn yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer symud ymlaen i addysg uwch a gyrfaoedd megis:
- meddygaeth
- deintyddiaeth
- ffisiotherapi
- cadwraeth amgylcheddol
- geneteg
- microbioleg
- biocemeg
Bydd myfyrwyr yn astudio ystod o bynciau gan gynnwys:
- biocemeg sylfaenol a threfniant celloedd
- bioamrywiaeth a ffisioleg systemau’r corff
- egni, homeostasis a’r amgylchedd
- amrywiad, etifeddiad a geneteg
- sgiliau bioleg ymarferol
Caiff myfyrwyr eu hasesu drwy arholiadau ysgrifenedig ar ddiwedd pob blwyddyn ynghyd ag elfennau asesu ymarferol I ddatblygu ac arddangos sgiliau labordy.
Efallai y bydd costau ychwanegol yn gysylltiedig â’r cwrs, gan gynnwys llyfrau testun, deunydd ysgrifennu, argraffu a theithiau addysgol.