FFIOEDD CWRS ADDYSG BELLACH LLAWN-AMSER

Mae’n ofynnol i bob myfyriwr amser llawn yn y Coleg dalu ffi weinyddol na ellir ei had-dalu o £25. Mae’r ffi hon fesul myfyriwr, nid fesul cwrs.

Mae’r ffi weinyddol yn cynnwys nifer o wasanaethau gweinyddol gan gynnwys dosbarthu’r Cerdyn Llyfrgell, Cerdyn Adnabod Myfyriwr, prosesu cofrestriadau arholiadau a mynediad i’r holl gyfleusterau cyfrifiadurol ac ati. Rhaid talu’r ffi wrth gofrestru.

Mae’n bosibl y bydd costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â’r cwrs ar gyfer eitemau fel, ond heb fod yn gyfyngedig i, werslyfrau, deunydd ysgrifennu, argraffu, ac ymweliadau addysgol dros nos.

Nid yw’n ofynnol i fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar gyrsiau amser llawn dalu ffioedd dysgu neu arholiadau cychwynnol ar gyfer y prif gwrs y maent wedi cofrestru arno.

Fodd bynnag, os dymunwch sefyll arholiadau y tu allan i’r rhaglen astudio hon, efallai y bydd angen i chi dalu ffioedd ychwanegol. Fe’ch cynghorir i wirio ymlaen llaw a fydd angen i chi dalu ffioedd arholiad, gan y gallant fod yn swm sylweddol.

Efallai y bydd myfyrwyr ar gyrsiau amser llawn yn gallu gwneud cais am gyllid i helpu gyda chost dysgu. I gael gwybod mwy cysylltwch â Chymorth i Fyfyrwyr yn studentsupport@nptcgroup.ac.uk

CYMHWYSEDD AR GYFER FFIOEDD

Gall myfyrwyr sy’n derbyn budd-daliadau’r wladwriaeth neu ar incwm cartref isel fod yn gymwys i gael gostyngiad mewn ffioedd cwrs ar y gyfradd a nodir ar gyfer pob cwrs. Wrth hawlio ffioedd gostyngol, rhaid i fyfyrwyr lenwi a dychwelyd Ffurflen 36 NPTC a dangos prawf o fudd-daliadau/incwm. Gellir cael ffurflenni gan y Swyddfa Gyllid, Coleg Castell-nedd.

Sylwer: Gall myfyrwyr dderbyn uchafswm o ddau gwrs y flwyddyn academaidd ar gyfradd is.

FFIOEDD ARHOLIADAU A CHOFRESTRU

Mae’n ofynnol i fyfyrwyr rhan-amser dalu ffioedd cofrestru/arholiad/asesu lle bo’n briodol. Ar gyfer cyrsiau sy’n denu ffioedd ychwanegol, mae’r rhain wedi’u cynnwys yng nghyfanswm y ffi sy’n daladwy ac mae’n rhaid eu talu ar adeg cofrestru.

TALU MEWN RHANDALIADAU

Os yw ffi’r cwrs yn fwy na £100, gall unrhyw fyfyriwr wneud cais i dalu drwy ddebyd uniongyrchol neu randaliadau, gweler y Polisi Ffioedd am fanylion.

Sylwch fod yna dâl gweinyddol o £30  am y gwasanaeth hwn yn daladwy gyda’r rhandaliad cyntaf.

FFIOEDD AD-DALU

Os bydd y Coleg yn canslo cwrs, bydd ffioedd y cwrs, ynghyd ag unrhyw ffioedd eraill a dalwyd, yn cael eu had-dalu. Gweler yr adran ad-daliad o’r polisi ffioedd am amgylchiadau eraill lle gellir gofyn am ad-daliad.

Dim ond o dan amgylchiadau arbennig y gall myfyrwyr sy’n dymuno tynnu’n ôl o gwrs hawlio ad-daliad. Bydd y ffi weinyddol o £25  yn cael ei thynnu o unrhyw ad-daliad sy’n ddyledus.

Fodd bynnag, byddai unrhyw ffioedd arholi/cofrestru nad ydynt wedi’u talu eisoes i’r cyrff dyfarnu yn cael eu had-dalu.

PEIDIO Â THALU FFIOEDD

Os na thelir ffioedd, bydd angen i’r Coleg gymryd y camau angenrheidiol i adennill y swm sy’n weddill, a all arwain at gamau adennill dyled. Os bydd y trydydd parti (e.e. cyflogwr) yn methu â thalu, bydd y myfyriwr yn dod yn atebol am gost y cwrs.

Polisi Ffioedd

Polisi Ffioedd