Crynodeb o’r cwrs

Mae’r Porth Lefel 1 yn gwrs sylfaen amser llawn, wedi’i ddylunio fel cyflwyniad i feysydd galwedigaethol.

Mae’r cwrs penodol hwn yn ymwneud â chwaraeon a garddwriaeth. Mae hefyd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu agweddau ac ymddygiadau cadarnhaol tuag at waith, gan annog gwella sgiliau sylfaenol ar yr un pryd.