Wythnos Addysg Oedolion 2026: Darganfyddwch Gyfleoedd Newydd gyda Grŵp Colegau NPTC

Adult Learners Week stock image of three learners in front of a laptop, with logo

Meddwl am newid? P’un a ydych chi’n awyddus i roi hwb i’ch gyrfa, dychwelyd i addysg, ennill cymwysterau newydd, neu ddysgu rhywbeth newydd er mwynhad, mae Grŵp Colegau NPTC yn annog oedolion ledled y rhanbarth i archwilio’r ystod eang o gyfleoedd dysgu sydd ar gael yn ystod Wythnos Addysg Oedolion 2026.

Yn digwydd rhwng 21-27 Medi 2026, mae Wythnos Addysg Oedolion yn dathlu dysgu gydol oes ac yn tynnu sylw at yr effaith gadarnhaol y gall addysg ei chael ar unigolion, teuluoedd a chymunedau. Drwy gydol mis Medi, bydd Grŵp Colegau NPTC allan yn y gymuned yn arddangos yr ystod amrywiol o gyrsiau a chymwysterau sydd ar gael i ddysgwyr sy’n oedolion.

O gyrsiau proffesiynol a mynediad i ddysgu seiliedig ar hobïau, TGAU mewn Saesneg a Mathemateg, Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL), astudio ar lefel prifysgol a channoedd o gyfleoedd dysgu ar-lein, mae rhywbeth sy’n addas i bob diddordeb ac uchelgais.

Wrth i ddiwydiannau ledled Cymru barhau i brofi prinder sgiliau, mae astudio rhan-amser yn cynnig cyfle i oedolion ennill cymwysterau gwerthfawr, datblygu sgiliau newydd a gwella rhagolygon cyflogaeth. P’un a yw dysgwyr yn awyddus i symud ymlaen yn eu rôl bresennol, ailhyfforddi ar gyfer gyrfa newydd, neu feithrin hyder trwy addysg, mae Grŵp Colegau NPTC yn darparu opsiynau dysgu hyblyg sydd wedi’u cynllunio i gyd-fynd ag ymrwymiadau gwaith a theulu.

Mae cyrsiau’n rhedeg drwy gydol y flwyddyn ac yn elwa o ddosbarthiadau bach a chefnogaeth bersonol, gan helpu dysgwyr i gyflawni eu nodau mewn amgylchedd croesawgar a chefnogol.

Fel rhan o’r dathliadau, gwahoddir aelodau’r cyhoedd i gwrdd â’r tîm Addysg Oedolion mewn tri digwyddiad gwybodaeth cymunedol:

  • Canolfan Siopa Aberafan – 22 Medi 2026, 10 am i 2 pm
  • Morrisons Castell-nedd – 24 Medi 2026, 10 am i 2 pm
  • Noson Agored Gymunedol Coleg Bannau Brycheiniog (Y Gaer, Watton Mount a’r Coetsiws, Stryd y Defaid, Y CWTCH) – 30 Medi 2026, 5 pm i 7 pm

Bydd cyfle i ymwelwyr siarad â staff profiadol, archwilio’r cyrsiau a llwybrau dysgu sydd ar gael, a derbyn cyngor ar gyllid, cymwysterau a chyfleoedd datblygu gyrfa. Yn ein Noson Agored ym Mannau Brycheiniog, bydd cyfle i ymwelwyr archwilio’r cyfleusterau newydd, cwrdd â staff, a darganfod yr ystod eang o gyrsiau sydd ar gael. Bydd gweithgareddau rhyngweithiol yn cynnig profiad ymarferol o ddysgu, gan ysbrydoli darpar fyfyrwyr o bob oed.

Mae addysg oedolion yn cynnig llawer mwy na chymwysterau. Gall ehangu gorwelion, meithrin hyder, gwella llesiant a chreu cysylltiadau newydd gwerthfawr. Boed yn cymryd y cam cyntaf yn ôl i addysg, yn archwilio diddordeb hirhoedlog neu’n paratoi ar gyfer newid gyrfa, mae Wythnos Addysg Oedolion yn rhoi cyfle i bawb ddarganfod beth all dysgu ei gyflawni.

Paid Stopio Dysgu

Mae Wythnos Addysg Oedolion am ddim ac ar agor i bawb. Mae’n gyfle i gofleidio cyfleoedd newydd, datblygu sgiliau presennol, magu hyder a dilyn nodau personol a phroffesiynol.

Mae Grŵp Colegau NPTC hefyd yn tynnu sylw at ei ddarpariaeth dysgu helaeth i oedolion, gan gynnwys y prosiectau Lluosi Mathemateg a Rhifedd, a gynlluniwyd i helpu oedolion i wella eu hyder a’u sgiliau mewn rhifedd wrth gefnogi bywyd bob dydd a datblygiad gyrfa.

Gall darpar ddysgwyr archwilio’r ystod lawn o gyfleoedd dysgu i oedolion drwy ymweld â Chyrsiau  Addysg Oedolion yn y Gymuned, â Chyrsiau Rhan-Amser a Phartneriaeth Addysg Oedolion Powys a Chastell-nedd Port Talbot.

Yn ogystal, gall dysgwyr bori cannoedd o gyrsiau, digwyddiadau ac adnoddau ar-lein ac wyneb yn wyneb am ddim drwy gydol mis Medi drwy’r Platfform Wythnos Addysg Oedolion.

Mae dysgu i bawb, ar bob cam o fywyd. Yn ystod Wythnos Addysg Oedolion eleni, mae Grŵp Colegau NPTC yn gwahodd unigolion ledled y rhanbarth i ddarganfod eu hangerdd dros ddysgu a chymryd y cam nesaf tuag at ddyfodol disgleiriach.