Grŵp Colegau NPTC yn Nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn 2026 gyda’r Ymgyrch ‘Mae’n Cymryd Pob Un Ohonom Ni’

A close up of a student's hand signing the White Ribbon Day pledge poster.

Mae Grŵp Colegau NPTC wedi cadarnhau ei ymrwymiad i atal trais yn erbyn menywod a merched drwy nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn 2026. Mae’r Coleg yn parhau i hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol, codi ymwybyddiaeth ac annog gweithredu ar y cyd i herio agweddau ac ymddygiadau niweidiol.

Thema Diwrnod y Rhuban Gwyn eleni yw Mae’n Cymryd Pob Un Ohonom Ni. Rydym yn gofyn i bawb chwarae eu rhan drwy herio, neu wrthod chwerthin pan glywir sylwadau rhywiaethol, jôcs a sylwadau digymell y gellir eu diystyru’n rhy hawdd. Mae’r ymgyrch eleni yn canolbwyntio ar yr agweddau a’r ymddygiadau bob dydd a all normaleiddio rhywiaeth. Gall sylwadau, jôcs a “chellwair” ymddangos yn fach ar eu pen eu hunain, ond pan mae pobl yn chwerthin wrth eu clywed neu pan na chânt eu herio, gallant atgyfnerthu’r syniad bod hyn yn dderbyniol.

Mae gan dimau cyfathrebu rôl bwysig wrth helpu pobl i adnabod yr eiliadau hynny, deall pam eu bod yn bwysig a theimlo’n fwy hyderus i wneud rhywbeth amdanynt. Neges ein hymgyrch yw nad yw trais yn erbyn menywod a merched yn dod o unman. Mae’n dechrau gyda “Dim ond jôc.” “Dim ond ychydig o gellwair.” “Dim ond bechgyn yn bod yn fechgyn.” Rydyn ni i gyd wedi clywed yr esgusodion. Os ydyn ni’n dal i chwerthin amdano neu beidio â dweud dim byd, rydyn ni’n helpu i wneud iddo ymddangos fel pe bai’n iawn. Weithiau mae mor syml â dweud “dewch ymlaen, gadewch e”, tynnu sylw at gynnwys rhywiaethol, neu godi llais pan fydd sgwrs grŵp yn mynd yn rhy bell. Os nad oes neb yn ei herio, does dim byd yn newid. Mae’n Cymryd Pob Un Ohonom Ni.

I nodi’r achlysur, sefydlwyd ardaloedd ymwybyddiaeth ac ymgysylltu dynodedig o fewn prif fannau derbynfa ar draws safleoedd Grŵp Colegau NPTC. Gan weithio ochr yn ochr â sefydliadau partner allanol, daeth staff a myfyrwyr ynghyd i ddarparu gwybodaeth, annog trafodaeth a thynnu sylw at y cymorth sydd ar gael i’r rhai yr effeithir arnynt gan drais ar sail rhywedd.

Mynychodd aelodau o Dîm Arweinyddiaeth Uwch y Coleg Goleg Castell-nedd, Goleg Afan, Goleg Bannau Brycheiniog a Goleg y Drenewydd, lle gwnaethant addewid y Rhuban Gwyn a dangos ymrwymiad parhaus y Coleg i greu amgylcheddau diogel a chynhwysol ar gyfer pob dysgwr, aelod o staff a chymuned.

Wrth sôn am bwysigrwydd cefnogi mudiad y Rhuban Gwyn, dywedodd Catherine Lewis, Pennaeth a Phrif Swyddog Gweithredol Grŵp Colegau NPTC: “Mae cefnogi elusen y Rhuban Gwyn yn ffordd bwerus o sefyll yn erbyn trais ar sail rhywedd. Mae’r Rhuban Gwyn yn annog dynion yn benodol i herio agweddau, ymddygiadau a stereoteipiau niweidiol sy’n parhau â thrais ac anghydraddoldeb. Drwy gymryd rhan, gall dynion hyrwyddo parch, cydraddoldeb a pherthnasoedd iach yn weithredol, gan ddod yn fodelau rôl i eraill yn eu cymunedau.

“Mae gwisgo’r Rhuban Gwyn yn symbol o ymrwymiad i beidio byth â goddef nac aros yn dawel am drais yn erbyn menywod. Mae’n addewid i greu diwylliant o atebolrwydd ac empathi. Mae cymryd rhan mewn ymgyrchoedd ymwybyddiaeth, codi llais yn erbyn gwrywdod gwenwynig ac addysgu eraill am gydsyniad a pharch yn gamau hanfodol y gall dynion eu cymryd.

Mae’r ymrwymiad hwn hefyd yn cael ei adlewyrchu yn y gwaith y mae’r Coleg wedi’i wneud ynghylch cam-drin gan gyfoedion, gan helpu i atgyfnerthu na ddylid byth normaleiddio ymddygiad niweidiol neu gamdriniol, ei anwybyddu fel cellwair na’i adael heb ei herio. Drwy godi ymwybyddiaeth ac annog pobl i gydnabod a chodi llais yn erbyn yr ymddygiadau hyn, gallwn helpu i greu diwylliant mwy diogel a pharchus i bawb..”

Mae Grŵp Colegau NPTC yn annog myfyrwyr, staff ac aelodau o’r gymuned ehangach i gefnogi’r ymgyrch a chwarae eu rhan wrth greu dyfodol sy’n rhydd rhag trais, cam-drin a gwahaniaethu.

Cliciwch yma i gael gwybod mwy am Ddiwrnod y Rhuban Gwyn