Pedwar Cricedwr o Grŵp Colegau NPTC wedi’u dewis ar gyfer Sgwadiau Hyfforddi Gaeaf Morgannwg

Carys Jenkins, Elizabeth Cox, Harley Thomas and Freya Derrick in their Glamorgan kit in the nets at Llandarcy Academy of Sport.

Mae pedwar cricedwr ifanc talentog sy’n astudio yn Academi Chwaraeon Llandarcy wedi cael eu dewis ar gyfer sgwadiau hyfforddi gaeaf merched a bechgyn Criced Morgannwg, gan nodi carreg filltir bwysig arall yn eu datblygiad chwaraeon.

Mae’r myfyrwyr Carys Jenkins, Elizabeth Cox a Harley Thomas wedi cael eu dewis ar gyfer Academi Criced Morgannwg tra mae Freya Derrick wedi cael ei dewis ar gyfer Sgwad Oedran Sir Forgannwg dan 18 oed. Mae pob un wedi dangos ymrwymiad a gallu rhagorol, gan symud ymlaen trwy griced clwb, rhanbarthol a sirol wrth barhau â’u hastudiaethau yng Ngrŵp Colegau NPTC. Mae Harley yn astudio Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol Lefel 3 yn Academi Chwaraeon Llandarcy tra bod Freya, Carys ac Elizabeth yn astudio Safon Uwch yng Ngholeg Castell-nedd.

Freya Derrick

Mae Freya wedi bod yn chwarae criced ers naw mlynedd ac ar hyn o bryd mae’n cynrychioli Clwb Criced Castell-nedd, lle roedd hi’n rhan o’r tîm a sicrhaodd ddyrchafiad i’r Uwch Gynghrair yn ddiweddar.

Yn fowliwr cyflym, mae Freya wedi cynrychioli Sir Forgannwg ar lefel Grŵp Oedran y Sir ac ar hyn o bryd mae hi’n rhan o garfan Dan-18 Morgannwg, ar ôl chwarae i’r tîm Dan-16 cyn hynny. Mae hi hefyd wedi cynrychioli Criced Cymru’r De ar lefel Dan-15.

Ei ffigurau bowlio gorau i Forgannwg hyd yma yw dwy wiced am ddim ond wyth rhediad. Yn athletwraig ymroddedig, mae Freya yn parhau i weithio’n galed ar ei gêm a datblygu ei sgiliau ochr yn ochr â’i hyfforddwyr a’i chyd-chwaraewyr.

Carys Jenkins

Mae Carys wedi chwarae criced ers tua wyth mlynedd, gan ddechrau yng Nghlwb Criced Dur Llansawel cyn symud i Glwb Criced Tref Port Talbot, lle mae hi’n chwarae ar hyn o bryd.

Bowliwr oddi ar y sbin yw Carys, ac mae wedi cynrychioli Cymru ar lefel Dan-13 a Dan-15 a Morgannwg ar lefel Dan-16 a Dan-18, gan gystadlu ddwy flynedd yn uwch na’i grŵp oedran. Mae ei pherfformiadau wedi arwain ati’n cael ei dewis ar gyfer Rhaglen Chwaraewyr sy’n Dod i’r Amlwg Morgannwg ac, wedi hynny, Academi Mrogannwg.

Yn ystod tymor 2026, bowliodd Carys 169 pelawd, gan gymryd 39 wiced trawiadol. Mae hi hefyd yn chwarae i Glwb Criced y Panthers, tîm menywod sydd wedi ennill yr Uwch Gynghrair am dair tymor yn olynol.

Ar ôl newid i chwarae oddi ar y sbin ddau dymor yn ôl yn unig, mae Carys wedi datblygu’n gyflym i fod yn sbiniwr gwerthfawr iawn, yn ogystal â sefydlu ei hun fel chwaraewr maes dibynadwy sy’n gallu perfformio mewn safleoedd hanfodol.

Elizabeth Cox

Mae Elizabeth wedi bod yn chwarae criced ers 11 mlynedd ac ar hyn o bryd mae’n cynrychioli Clwb Criced Tref Port Talbot, yn bennaf fel batiwr agoriadol.

Roedd ei thymor yn 2026 yn cynnwys carreg filltir nodedig pan sgoriodd 200 heb fod allan i dîm dan-16 oed Morgannwg yn erbyn Dorset. Drwy gydol y tymor, cronnodd 2,226 o rediadau trawiadol mewn 59 gêm.

Mae Elizabeth wedi cynrychioli Cymru o oedran ifanc, gan chwarae ar lefel Dan-13, Dan-15 a Dan-18, gan gynnwys cystadlu dair blynedd yn uwch na’i grŵp oedran. Mae hi hefyd wedi cynrychioli Morgannwg ar lefel Dan-16 a Dan-18.

Mae ei datblygiad parhaus wedi arwain at gael ei dewis ar gyfer Rhaglen Chwaraewyr sy’n Dod i’r Amlwg Morgannwg ac yn awr Academi Morgannwg.

Harley Thomas

Mae Harley wedi dangos cynnydd eithriadol drwy lwybr criced Cymru, gan gynrychioli De Cymru o 11 oed.

Aeth ymlaen i gynrychioli Cymru ar lefel Dan-13 a Dan-15, gan gyflawni ei gasgliad cyntaf o bum wiced i Forgannwg yn erbyn Swydd Gaerloyw. Enillodd ei berfformiadau iddo gael ei ddewis ar gyfer Rhaglen Chwaraewyr sy’n Dod i’r Amlwg Morgannwg.

Creodd Harley hanes ar lefel clwb hefyd fel y chwaraewr ieuengaf i gynrychioli tîm cyntaf Clwb Criced Tref Port Talbot, gan wneud ei ymddangosiad cyntaf yn 14 oed. Wedi hynny, cafodd ei enwi’n Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn y clwb.

Yn ystod tymor 2026, gorffennodd Harley fel prif wicedwr dan-16 Morgannwg cyn symud ymlaen i garfan dan-18, gan gystadlu ddwy flynedd yn uwch na’i grŵp oedran. Cafodd ei berfformiadau eu cydnabod gyda chontract gydag Academi Morgannwg.

Mae Harley hefyd wedi sicrhau nawdd gan y brand criced blaenllaw GRAY-NICOLLS ac yn ddiweddar teithiodd i India gyda’r Academi ar gyfer gwersyll hyfforddi 10 diwrnod yn Bangalore, gan ennill profiad gwerthfawr o chwarae a hyfforddi mewn amodau is-gyfandirol.

Cafodd ei gyflawniadau gydnabyddiaeth bellach pan gafodd ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn Coleg Castell-nedd 2026.

Dywedodd y Darlithydd Chwaraeon Rachel Jones: “Rydym yn hynod falch o bedwar o’n myfyrwyr criced talentog sydd wedi cyflawni cerrig milltir arwyddocaol yn eu teithiau chwaraeon, gan adlewyrchu eu hymroddiad, eu gwaith caled, a’u potensial rhagorol o fewn y gamp.

Fel coleg, rydym wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr-athletwyr wrth iddynt anelu at ragoriaeth ar y cae ac oddi arno. Byddwn yn parhau i ddarparu cyfleoedd hyblyg a chefnogaeth barhaus i’w helpu i gydbwyso eu hastudiaethau academaidd yn llwyddiannus â’u hymrwymiadau criced wrth iddynt symud ymlaen trwy’r camau cyffrous hyn o’u datblygiad.”

Mae cyflawniadau Freya, Carys, Elizabeth a Harley yn adlewyrchu eu talent, eu hymroddiad a’u hymrwymiad i ddatblygu’n academaidd ac o fewn eu camp.

Mae pawb yng Ngrŵp Colegau NPTC yn dymuno’r gorau i’r pedwar myfyriwr wrth iddynt gymryd y cam nesaf yn eu taith criced.

Cliciwch yma i ddarganfod mwy am ein cyrsiau Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus