Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig

Mae gan y diwydiant adeiladu oddeutu tair miliwn o weithwyr yn y DU, sy’n golygu ei fod yn un o gyflogwyr mwyaf y wlad.

Mae ein Tystysgrifau a’n Diplomâu Cenedlaethol Uwch yn diwallu anghenion y rhai sy’n dymuno dechrau neu ddatblygu eu gyrfa broffesiynol a thechnegol ym maes adeiladu. A chynnwys yr opsiynau o astudio gwasanaethau peirianneg adeiladau, peirianneg sifil, rheoli adeiladu, ac arolygu meintiau.

Mae ein gweithdai uwch a’n hystafelloedd dosbarth yn galluogi darlithwyr i ddarparu hyfforddiant o safon gyda’r offer diweddaraf a sicrhau bod dysgwyr yn barod ar gyfer y sector hwn sy’n newid yn barhaus.

Cyrsiau
Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig: Rheoli Adeiladwaith – HND (Amser-Llawn) - Addysg Uwch a Graddau
Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig: Rheoli Adeiladwaith – HND (Rhan-Amser) - Addysg Uwch a Graddau