Cyflwyniad
Mae’r adran hon yn cwmpasu’r swyddogaethau hynny o fewn y sefydliad sy’n cynnig mynediad at wybodaeth i gorff y myfyrwyr a staff academaidd a gweinyddol. Mae’r rhain yn cynnwys llyfrgelloedd, gwasanaethau cyfrifiadura a gwasanaethau cymorth gwybodaeth.
Gallai swyddogaethau o’r fath fod wedi’u rheoli ar wahân i’w gilydd, neu mewn cyfuniadau amrywiol. Mae’r gwasanaethau hyn fel arfer yn esbonio eu cyfleusterau a’r amodau ar gyfer eu defnyddio i fyfyrwyr, staff a’r cyhoedd, a gwybodaeth o’r math hwn sydd wedi’i chynnwys o fewn yr adran hon.
Mae’n anochel bod gwasanaethau gwybodaeth yn cadw symiau mawr o ddata personol sydd wedi’u heithrio rhag cael eu datgelu’n gyffredinol.
6.1 Argaeledd ac Amodau Defnyddio Cyfleusterau
Disgrifiad:
Mae gwybodaeth yn y dosbarthiadau hyn yn rhoi manylion ynglŷn â phwy sy’n gallu cyrchu systemau a gwasanaethau a’r cyfleusterau y gallant eu cyrchu. Maent hefyd yn rhoi sicrwydd i gyrff allanol / unigolion fod rheolau yn bodoli i sicrhau yr ymdrinnir ag achosion o dorri amodau defnyddio yn briodol.
Mae’r dosbarth hwn yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:
Strategaeth Systemau Gwybodaeth | Papur | Am ddim |
Cytundeb Defnyddwyr y Rhwydwaith Staff Myfyrwyr |
Papur | Am ddim |
Cod Ymddygiad Janet [www.janet.ac.uk] |
Papur | Am ddim |
Polisi a Gweithdrefn Ddisgyblu ar gyfer Staff a Myfyrwyr [Croesgyfeiriwch at Adran 3.1]
Efallai y bydd sefydliadau yn dymuno nodi mai gwybodaeth yn ôl i bwynt penodol yn unig fydd ar gael drwy eu cynllun cyhoeddi. |
Papur | Am ddim |
6.2 Datganiadau cenhadaeth a dogfennau cysylltiedig
Disgrifiad:
Dylai’r dosbarth hwn gynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â nodau’r adran yng nghyd-destun ei lle yn y sefydliad, diffiniad o’r gwasanaeth a ddarperir a, lle bo’n briodol, cytundebau lefel gwasanaeth.
6.3 Polisïau ynglŷn â data a gwybodaeth
Disgrifiad:
Mae gwybodaeth yn y dosbarth hwn yn cynnig sicrwydd i wrthrychau data, boed yn unigolion neu’n gwmnïau sy’n delio â’r sefydliad, fod data sy’n ymwneud â nhw yn cael ei drafod yn dda, gan leihau’r perygl o fynediad neu ddatgeliad anawdurdodedig. Mae enghreifftiau o’r math o wybodaeth yn y dosbarth hwn yn cynnwys:
- Polisïau diogelwch (h.y. sut y mae’r data yn cael ei ddiogelu). Gellid dadlau y gallai darparu gwybodaeth ynglŷn â hyn achosi perygl y bydd trosedd yn cael ei chyflawni, felly gallai fod wedi’i heithrio neu ni fyddai rhannau penodol yn cael eu cyhoeddi. (Nid yw hyn yn broblem mewn gwirionedd ond lle mae’r polisi diogelwch yn ddigon eglur i gynnwys disgrifiad manwl o’i weithrediad. Mae’n amlwg y gallai datgelu gwybodaeth o’r math hwn arwain at drosedd o bosibl dan y Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron).
- Polisïau cadw ac archifo data (pa mor hir y mae’n cael ei gadw, beth sy’n digwydd iddo ar ôl i’r angen amdano ddod i ben, sicrhau bod data yn ddienw er mwyn ei gadw ar gyfer ystadegau)
- Datganiadau / polisïau diogelu data.
- Polisïau ar fonitro teledu cylch cyfyng, y Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio, ac ati
6.4 Polisïau Caffael a Gwaredu
Disgrifiad:
Mae gwybodaeth yn y dosbarth hwn yn cynnig sicrwydd bod arian yn cael ei wario’n briodol a sicrwydd bod y broses gaffael yn deg ac yn agored. Mae’r polisïau gwaredu hefyd yn sicrhau bod y sefydliad yn defnyddio cronfeydd yn gywir ac yn briodol.
Mae’r dosbarth hwn yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:
Cofnodion y Gweithgor Offer | Papur | Am ddim |
Polisi a Gweithdrefnau Caffael [Croesgyfeiriwch at Adran 2.2] |
Papur | Am ddim |
Polisïau a Gweithdrefnau Ariannol Tendro Caffael Asedau Sefydlog, Gwaredu a Dibrisiant [Croesgyfeiriwch at Adran 2.1] |
Papur | Am ddim |
Rheoliadau Ariannol [Croesgyfeiriwch at Adran 2.2] |
Papur | Am ddim |
6.5 Cwmpas y Casgliadau a Gedwir
Disgrifiad:
Mae’r dosbarth hwn yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:
Catalog y Llyfrgell | Papur | Am ddim |