Crynodeb o’r cwrs

Mae’r Gradd Sylfaen mewn Astudiaethau Plentyndod yn rhaglen Addysg Uwch ddwy flynedd, amser llawn, sy’n archwilio datblygiad, dysgu a lles plant a phobl ifanc o’u genedigaeth hyd at 18 oed. Mae’r cwrs hefyd yn darparu llwybr i symud ymlaen i raglen BSc (Anrh) i ddyfnhau ac ymestyn y wybodaeth hon.

Bydd y cwrs yn addas i fyfyrwyr sydd am ddatblygu ystod eang o wybodaeth a sgiliau sy’n berthnasol i weithio gyda phlant a phobl ifanc a gall llwybrau gyrfa gynnwys: nyrsio pediatrig, addysgu, ymwelydd iechyd, gweithiwr meithrinfa yn y sectorau cyhoeddus ac annibynnol, gweithiwr cymdeithasol a phobl sy’n gweithio yn y sectorau cyfiawnder ieuenctid a gorfodi’r gyfraith. Mae hyn wedi’i leoli yn yr adran Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant (HSC).

Mae’r cwrs hwn yn cael ei redeg mewn partneriaeth gyda Prifysgol De Cymru.