Crynodeb o’r cwrs
Mae’r rhaglen yn cynnwys ystod o unedau a gynlluniwyd i ddarparu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i weithio mewn safleoedd Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Ochr yn ochr â hyn, byddwch yn cwblhau Bagloriaeth Cymru ar Lefel Uwch lle byddwch chi’n gweithio ar gyfres o heriau a fydd yn ehangu’ch datblygiad personol, cymdeithasol ac academaidd. Rydym hefyd yn annog cyfranogiad cymdeithasol trwy godi arian ar gyfer elusennau lleol mewn pob math o ffyrdd difyr a diddorol.
-
Gofynion Mynediad
5 TGAU Gradd C neu uwch - Saesneg/ Mathemateg a Gwyddoniaeth.
-
Rhagolygon Gyrfa
Gallwch ddewis naill ai cael swydd yn syth neu fynd ymlaen i addysg uwch. Os byddwch chi’n penderfynu cael swydd, gallech weithio a dilyn hyfforddiant pellach mewn ysbytai, cartrefi preswyl neu wasanaethau cymdeithasol.
Dull Astudio
Amser Llawn
Lleoliad
Coleg Castell-nedd
Coleg Y Drenewydd
Coleg Afan
Coleg Bannau Brycheiniog
Hyd y cwrs
2Y