Crynodeb o’r cwrs

Mae gan y cwrs hwn dri opsiwn gwahanol y gallwch ddewis canolbwyntio’ch astudiaethau arnynt:
Peirianneg Electronig a Thrydanol:
Bydd yr HNC mewn Peirianneg Electronig a Thrydanol yn addysgu egwyddorion peirianneg craidd i chi ac fe’i dyfeisiwyd i wella a llenwi’r bylchau sgiliau ar gyfer technegwyr proffesiynol uwch neu gyflogeion sy’n dymuno gwella’u sgiliau.

Peirianneg Gyffredinol:
Mae’r HNC mewn Peirianneg Gyffredinol yn cynnig cyfle i chi astudio disgyblaeth peirianneg ar lefel dechnegol, ac o ganlyniad roi cymhwyster i chi sy’n adlewyrchu’ch gwybodaeth ddamcaniaethol ac ymarferol ar lefel 4. Mae peirianwyr gweithgynhyrchu yn helpu i ddylunio’r ffyrdd mwyaf effeithlon o gynhyrchu nwyddau ar draws ystod enfawr o ddiwydiannau, o fwyd i blastig a deunyddiau fferyllol. Gallech hefyd weithio ym maes cyfleustodau neu hyd yn oed y lluoedd arfog.

Peirianneg Fecanyddol:
Mae’r HNC mewn Peirianneg Fecanyddol yn ymwneud yn benodol â dylunio, datblygu, gosod, gweithredu a chynnal a chadw bron unrhyw beth sydd â rhannau symudol. O ganlyniad, mae cyfleoedd gwaith i beirianwyr mecanyddol ym mron pob maes gwaith. Ymhlith y diwydiannau lle mae pobl yn gweithio mae awyrofod, amddiffyn ac ynni yn ogystal â chynhyrchu cynhyrchion diwydiannol a domestig, cyffuriau, dodrefn a bwydydd.