Crynodeb o’r cwrs
Mae’r cwrs Sgiliau Gwaith ac Addysg Gymdeithasol yn gwrs amser llawn sy’n cynnig cyfle i ddysgwyr adnabod y sgiliau sydd eu hangen i weithio yn y gymuned leol. Mae hwn wedi’i leoli yn yr adran Astudiaethau Sylfaen (FDS).
Bydd myfyrwyr yn dilyn llwybr Sgiliau Byw’n Annibynnol (ILS) sy’n cynnwys iechyd a lles, cynhwysiant cymunedol, sgiliau byw’n annibynnol a chyflogadwyedd . Bydd dysgwyr yn astudio ystod o feysydd galwedigaethol gan gynnwys llythrennedd digidol, chwaraeon, arlwyo a chelf.
I wneud cais am y cwrs cliciwch ar ‘Ymholi Nawr’, llenwch y Ffurflen Ymholiad a bydd darlithydd yn yr adran yn cysylltu â chi.