Adeiladu Dyfodol Cryfach Gyda’n Gilydd

Mae prentisiaid ym Mhowys yn dysgu gan y gorau wrth i Grŵp Colegau NPTC ac EvaBuild ymuno i helpu i ddatblygu gweithwyr adeiladwaith ar gyfer y dyfodol.

Mae’r bartneriaeth eisoes ar dir cadarn ac yn anelu at ddatblygu ymhellach gyda’r gobaith y bydd prentisiaethau ychwanegol yn cael eu cynnig gan y Coleg sydd â champysau ledled Cymru gan gynnwys Coleg y Drenewydd a Choleg Bannau Brycheiniog yn ogystal â safleoedd yng Nghastell-nedd Port Talbot, Maesteg ac Abertawe.

Mae EvaBuild hefyd yn fusnes amlwg yng Nghymru, gyda deng mlynedd o fasnachu. Mae’n gweithio’n bennaf ym maes peirianneg sifil ac adeiladwaith gwaith daear. Mae’n gweithio mewn sawl sector hefyd gan gynnwys addysg, y GIG a Gofal Iechyd yn ogystal â’r Weinyddiaeth Amddiffyn.

Ar hyn o bryd mae ganddo brentisiaid yn gweithio ar sawl safle gan gynnwys Ysbyty Amwythig lle gwnaethom ddal i fyny gyda’r prentisiaid a’r tîm o EvaBuild.

Dywedodd y Rheolwr Prosiect, Rob Evans ei fod yn gobeithio ehangu’r rhaglen i gwmpasu prentisiaethau nid yn unig ym maes adeiladwaith sy’n cynnwys peirianneg sifil a gwaith daear ond hefyd mewn disgyblaethau eraill gan gynnwys AD, busnes, arolygu a sgiliau adeiladu eraill.

“Rydyn ni’n edrych ar ehangu i ragor o ddisgyblaethau a gyda mwy o waith yn lleol hoffem gynnig rhagor o brentisiaethau i bobl ifanc 16 a 17 oed a’u helpu i aros yn yr ardal. Mae prentisiaethau yn wych i ni. Maen nhw’n dechrau o’r dechrau, yn dysgu am y busnes ac rydyn ni’n eu hyfforddi gan ein bod ni eisiau iddyn nhw gael eu hyfforddi ac maen nhw’n gwneud y disgyblaethau yn y coleg rydyn ni angen iddyn nhw eu dysgu.

“Mae defnyddio Grŵp Colegau NPTC a Choleg y Drenewydd yn bwysig iawn. Rydym yn gwmni lleol ac yn ymwybodol bod llawer o bobl ifanc yn symud i ffwrdd i weithio. Trwy weithio gyda’n gilydd, gobeithio y gallwn eu cadw ym Mhowys a chadw punt Powys yn ail-gylchredeg yn yr economi leol.”

Mae Tomas Vaughan a Jez Wheeldon, y ddau o’r Drenewydd yn ffynnu yn eu prentisiaethau. Yn ogystal ag ennill arian wrth ddysgu maen nhw’n gobeithio dysgu’r sgiliau a’r profiad a fydd yn eu helpu i symud ymlaen yn y diwydiant.

Dywedodd Jez sy’n cwblhau ei brentisiaeth mewn Peirianneg Sifil mai dyma’r ffordd orau i ddysgu. “Nid yn unig ydw i’n cael fy nhalu ond dwi’n dysgu gan aelodau staff profiadol sydd â blynyddoedd lawer o brofiad yn y sector hwn. Gallaf symud ymlaen hefyd a mynd i faes peirianneg sifil, rheoli prosiectau, amcangyfrifwr – mae’r rhestr yn hirfaith.”

Ychwanegodd Thomas ei fod wedi gwneud rhywfaint o ymchwil cyn cychwyn ar ei brentisiaeth. “Mae’n bwysig gweld beth sydd allan yna a dewisais EvaBuild oherwydd ei enw da.”

Yn ogystal â’r Brentisiaeth Peirianneg Sylfaen mewn Adeiladwaith a Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 2) bydd y Coleg yn cynnig prentisiaeth newydd mewn Adeiladwaith o fis Medi 2022 ar draws sawl campws gan gynnwys Lefel 3 yn y canlynol: Teilsio Waliau a Lloriau; Plastro Solet; Peintio ac Addurno; Gwaith Saer ar Safle; Gwaith Saer Pensaernïol; Gosod Brics; Leinin Sych – Gosod; Gweithrediadau Sifil – Gwaith Daear.  Mae wedi’i hanelu at fyfyrwyr sydd wedi cyflawni eu Sylfaen Lefel 2 mewn Peirianneg Adeiladwaith a Gwasanaethau Adeiladu neu a fydd yn cwblhau dysgu ac asesiadau craidd Lefel 2 mewn Peirianneg Adeiladwaith a Gwasanaethau Adeiladu tra ar eu prentisiaeth.

Dywedodd Eddie Jones, Dirprwy Bennaeth yr Ysgol Adeiladwaith: “Dyma’r amser delfrydol i fod yn lansio’r Prentisiaethau Lefel 3 newydd ac mae’n ddilyniant naturiol i fyfyrwyr sydd wedi cwblhau’r Sylfaen Lefel 2 gyda ni. Rydyn ni’n gwybod bod galw am y sgiliau ac wrth weithio mewn partneriaeth â busnesau fel EvaBuild rydyn ni’n gwybod y byddan nhw’n cael eu defnyddio’n dda.”