Siôn Corn dros ym mhobman ym Mharc y Drenewydd yn codi arian ar gyfer Cancer Research

Cynhaliwyd ras hwyl elusennol ar gyfer Cancer Research UK.  Daeth y rhedwyr yn eu llu yn eu gwisgoedd Nadoligaidd.  Roedd teuluoedd, ffrindiau a hyd yn oed nifer o gŵn.  Roedd disgwyl i’r cyfranogwyr redeg neu gerdded a siarad ar hyd y llwybr 5K, trwy Barc Dolrew ac ar hyd yr afon.

Roedd gweithgareddau hwyl i godi arian ar thema’r Nadolig hefyd gyda ‘dewch o hyd i’r coblyn’, raffl a llu o brownies siocled a chacennau cwpan wedi’u haddurno.  Enillwyd y ras gan Cai Van Lill, 13 oed, roedd Ben Wood yn ail a Rachel Williams yn drydydd a’r fenyw gyntaf i groesi’r llinell.  Roedd gwobrau am y gwisgoedd ffansi gorau gyda Georgina Fletcher yn ennill am y Wisg Orau i Oedolyn a Maisie Love yn ennill y Wisg Orau i Blentyn.

Dywedodd Amanda Disley, darlithydd Busnes yng Ngholeg y Drenewydd: “Yn ffodus, roedd y tywydd yn garedig i ni ac felly rydyn ni’n mor falch bod pobl wedi dod yn eu gwisgoedd Nadoligaidd.  Rydyn ni am ddweud diolch i bawb a ddaeth i gefnogi’r digwyddiad.  Da iawn i bob un o’n rhedwyr a’n henillwyr heddiw.”

Dywedodd:‘Dwi’n hynod o falch o’r myfyrwyr am drefnu’r digwyddiad hwn.  Mae’r pandemig wedi achosi straen ar bawb ac mae’n hynod o dda gweld y myfyrwyr yn cael y profiad o drefnu digwyddiad a llwyddo i godi £1000 yn barod ac mae cyfle o hyd i gyfrannu os nad oedd yn bosib i chi ddod i’r digwyddiad trwy fynd i’n tudalen gofundme – Santa-Sunday. Rydyn ni’n arbennig o ddiolchgar i Open Newtown, Newtown Park Run, Severn Trophies, Border Janitorial Supplies a Wildwood Ludlow am gefnogi’r digwyddiad.”

I ddangos eich cefnogaeth ar gyfer y digwyddiad, ewch i www.gofundme.com/f/santa-sunday