Crynodeb o’r cwrs

Trwy gwblhau’r cymhwyster hwn, bydd dysgwyr yn bodloni gofynion y diwydiant i gyflawni rolau rheoli gwylwyr yn cynnwys swyddog diogelwch.

Pwrpas y cymhwyster hwn yw cadarnhau cymhwysedd galwedigaethol a darparu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth o Ddiogelwch Gwylwyr i ddysgwyr. Maent wedi’u mapio i Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Skills Active (NOS) ar gyfer Diogelwch Gwylwyr 2019.

Mae’r Awdurdod Diogelwch Meysydd Chwaraeon (SGSA) yn arweinwyr ym maes diogelwch meysydd chwaraeon yn y DU ac wedi gweithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod cynnwys ein cymwysterau Diogelwch Gwylwyr yn adlewyrchu’r bygythiadau newidiol i ddigwyddiadau a mannau gorlawn.

Mae rhanddeiliaid yn cynnwys cyrff llywodraethu, swyddogion diogelwch, gweithredwyr lleoliadau, darparwyr hyfforddiant, asiantaethau’r llywodraeth, arbenigwyr pwnc a chymdeithasau masnach.

Mae Diploma Lefel 4 yr YMCA mewn Rheoli Gwylwyr wedi’i gynllunio i fodloni anghenion y rhan fwyaf o gyflogwyr, gan alluogi dysgwyr i ddangos y gofynion sylfaenol ar gyfer swyddog diogelwch mewn meysydd chwaraeon dynodedig a digwyddiadau mwy.