Seren Stars – ‘Dyma Ni’

Mae tocynnau ar gael nawr ar gyfer perfformiad Seren Stars eleni, dan arweiniad Coleg Bannau Brycheiniog!

Bydd ‘Dyma Ni’ yn cael ei berfformio gan fyfyrwyr Astudiaethau Sylfaen y coleg a myfyrwyr o Ysgol Penmaes, wrth iddynt roi eu gwaith caled ar waith ar gyfer yr hyn a fydd yn sioe ryfeddol yn Theatr Brycheiniog ar 21ain Mehefin (1.15pm).

Hon fydd yr wythfed flwyddyn i Seren Stars gyflwyno perfformiad, gyda thema’r sioe eleni yn seiliedig ar hoff gerddoriaeth, caneuon a dawnsfeydd y grŵp!

Mae tocynnau ar gael o swyddfa docynnau Theatr Brycheiniog, am £5.50 yn unig i oedolion (£4.00 gostyngiadau).

Gobeithio eich gweld chi cyn hir!