Rhys Carey yn Ennill Gwobr Adeiladwaith

Hoffai Grŵp Colegau NPTC longyfarch Rhys Carey, sydd wedi ennill Gwobr Adeiladu Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru.

Ar hyn o bryd, mae’r myfyriwr Coleg Bannau Brycheiniog wedi’i gyflogi gyda SGG Project Management Ltd, a chafodd ei wobrwyo am ei waith caled a’i lwyddiannau ers dilyn gyrfa yn y diwydiant.

Cyflwynwyd ei wobr i Rhys gan Keith Shankland, Cynorthwyydd Llys yng Nghwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru (WLCOW) gyda Chyfarwyddwr SGG Project Management Ltd Steve Groenow, y darlithydd gwaith coed Graham Strangward a chynrychiolydd Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladwaith (CITB) Clare Ward hefyd yn bresennol yn y seremoni.

Mae Rhys wedi gweld bod ei ddiddordeb yn ochr gwaith adnewyddu gwaith coed, ac mae’n mwynhau creadigrwydd ac elfen arbenigol y gwaith.

Mae’n gobeithio adeiladu ar ei sgiliau ac efallai rhedeg ei fenter ei hun dramor un diwrnod.

Cewch wybod rhagor am y cyrsiau gwaith coed yr ydym yn eu cynnig drwy ddod i’n noson agored ar 26 Mehefin, neu drwy gysylltu â Graham Strangward ar graham.strangward@nptcgroup.ac.uk