Y Dawnsiwr Gorau

Mae’r myfyriwr Celfyddydau Perfformio Lefel 3 yng Ngholeg y Drenewydd Josh Owen wedi bod yn llwyddiannus yn y gystadleuaeth Dance Creation yn ddiweddar. Enillodd Josh y wobr gyntaf am ei unawd telynegol ac fe enillodd y wobr Dawnsiwr Amlwg hefyd.

Cynhaliwyd y gystadleuaeth yn y Trallwng, i ddawnswyr o bob arddull i gyflwyno’u talentau a’u gwaith caled ac roedd yn cynnwys pobl o bob cwr o Gymru. Fe’i cynhaliwyd yn Theatr Clera yn y Trallwng.

Gweithiodd Josh yn galed ar ei ddawns gyda’i goreograffydd Shelley Ann a bu hefyd yn arddangos ei waith i’w gyd-ddysgwyr yng Ngholeg y Drenewydd. Mae Shelley yn ddawnswraig a choreograffydd proffesiynol, ac yn cynnal dosbarthiadau a gweithdai dawns yn lleol ym Mhowys. Mae Shelley hefyd yn gyn-fyfyriwr Coleg y Drenewydd ar y cwrs celfyddydau perfformio.

Dywedodd Ruth Calvert: “Mae’n wych gweld ein myfyrwyr yn symud ymlaen, rydym yn falch o Josh a hefyd yn falch dros Shelley ar yr un pryd.”

Cliciwch yma i ddarganfod mwy am ein cyrsiau Celfyddydau Perfformio