Myfyrwyr y coleg mewn cystadleuaeth ar ffurf Dragons’ Den

Roedd gan fyfyrwyr o Goleg y Drenewydd a Choleg  Bannau Brycheiniog reswm i ddathlu’n ddiweddar ar ôl ennill dau o’r tri phrif safle yng nghystadleuaeth Llwybrau Positif Powys a gynhaliwyd ar y cyd â digwyddiad Gyrfaoedd Powys Dewiswch Eich Dyfodol 2020.

Roedd y gystadleuaeth yn agored i bob myfyriwr o Bowys rhwng 14 – 19 oed a gyflwynodd gysyniad busnes mewn cynnig yn null Dragons’ Den i feirniaid o fusnesau lleol ac aelodau o Gyngor Sir Powys (CS Powys).

Yr her oedd cyflwyno achos busnes ar ‘Pa fusnes y byddech chi’n ei sefydlu ym Mhowys yn 2020 a pham?’

Roedd dros 35 wedi cystadlu a chafodd dri grŵp eu rhoi ar y rhestr fer. Gweithiodd grŵp o fyfyrwyr Porth o Goleg y Drenewydd – Bradie McBride, Sean Hill, Scott Lewis, Isabel Brinkley, Sarah Yapp, Matthew Bumford a Joel Cadman gyda’i gilydd ar gynnig ar gyfer ffynhonnau dŵr ‘Diod’ mewn ardaloedd anghysbell i gefnogi ac annog pobl i ddefnyddio cefn gwlad i leihau gwastraff a’r defnydd o blastig. Defnyddiodd y grŵp gyfuniad o bypedau a PowerPoint i gyflwyno eu syniad a ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth.   Cyflwynodd George Hardiman o Goleg Bannau Brycheiniog syniad cyffrous o’r enw ‘Sky High’ i adeiladu parc trampolîn ym Mhowys.

Roedd y beirniaid yn cynnwys entrepreneuriaid sydd wedi sefydlu eu busnes eu hunain ym Mhowys, Sharon Hammond (perchennog Quackers), Toby Weale a Dewi Evans (Weale’s Wheels) a’r Cyng James Evans, Datblygu Economaidd, Tai a Gwasanaethau Rheoleiddio.

Eglurodd Jayne Bevan, Rheolwr Rhaglenni a Busnes Strategol Cyngor Sir Powys fod pawb a gyrhaeddodd y rhestr fer wedi gwneud gwaith gwych a bod y beirniaid yn llawn canmoliaeth ar gyfer y syniadau ac wedi’i chael yn gystadleuaeth agos iawn.

Noddwyr y digwyddiad oedd Weale’s Wheels a WhatAboutMe https://www.wamwhataboutme.co.uk/contact