Mae Chwistrellu Lliw Haul yn gwrs harddwch, heb ei achredu, byr, rhan amser. Mae wedi’i gynllunio i’ch galluogi chi i ddeall a defnyddio sgiliau chwistrellu lliw haul gan ddefnyddio systemau lliw haul brwsh aer proffesiynol, dryll chwistrell a phabell.
Cyfweliad cyn cofrestru.
Rhaid i ddysgwyr fod yn 18 oed neu'n hyn.
Bydd y cwrs hwn yn galluogi dysgwyr i weithio'n broffesiynol gydag yswiriant llawn, naill ai mewn salon neu fel ymarferydd ar ei liwt ei hun.
Mae’r dulliau asesu’n cynnwys arsylwi gwaith ymarferol a holi ar lafar. Bydd gan y dysgwyr waith cartref i'w wneud sy'n cynnwys llenwi taflen gwestiynau i asesu dealltwriaeth flaenorol o wybodaeth, ac ymarfer sgiliau.