Myfyrwyr TG yn cipio aur ac efydd gyda Dyluniadau Gwe llwyddiannus

Mae myfyrwyr TG a Chyfrifiadura Grŵp Colegau NPTC wedi cael llwyddiant mawr yn rowndiau terfynol Codio a Dylunio Gwe Ysbrydoli Sgiliau Cymru yn ddiweddar trwy ennill Aur ac Efydd.

Gwnaeth y myfyriwr technolegol feistrolgar Zach Evans, 17, o Lansawel argraff fawr ar y beirniaid wrth orffen ar y brig ac ennill aur gyda’i ddyluniad gwefan yn seiliedig ar y Tour of Britain (Beicio). Mae Zach yn fyfyriwr Lefel 3 TG a Chyfrifiadura yng Ngholeg Castell-nedd ac roedd wrth ei fodd yn ennill. Meddai, ”Nid oeddwn yn disgwyl hyn felly rwy’n falch iawn.  Roedd yn brofiad gwirioneddol dda i weithio ar brîff byw, roeddwn wedi mwynhau!  Hefyd, roedd y cymorth a gefais gan ein tiwtoriaid yn wych.”

Mae Zach yn gobeithio astudio Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe, ond ar hyn o bryd nid yw wedi penderfynu p’un a i arbenigo mewn datblygu meddalwedd neu ddylunio gwefannau.

Yn ymuno ag ef oedd ei gyd-fyfyriwr TG a Chyfrifiadura Kia Sambrook, a enillodd y wobr efydd.  Roedd Kia yr un mor hapus am y canlyniad gan egluro, “Roedd y briff yn anodd ond fe wnes i fwynhau pob munud ac roedd gorffen yn drydydd yn deimlad anhygoel. Rwy’n credu bod cystadlaethau sgiliau fel hyn yn wych ar gyfer myfyrwyr Coleg, roeddwn yn gallu gweithio i friff a phrofi sefyllfa bywyd gwaith go iawn.”

Mae Kia yn gobeithio astudio Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth, gyda chynllun gyrfa ar gyfer y dyfodol mewn Dylunio Meddalwedd.

Mae’r prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru yn cyflwyno ac yn hybu  Cystadlaethau Sgiliau yng Nghymru ar ran y Rhwydwaith Hyrwyddwyr Sgiliau. Cynhaliwyd y gystadleuaeth Codio a Dylunio Gwe yng Ngholeg Gwent, gyda myfyrwyr o Golegau ledled Cymru yn cystadlu.

Dywedodd Eira Williams, Pennaeth TG a Chyfrifiadura Grŵp Colegau NPTC:

“Rydym i gyd yn hynod falch o’r holl fyfyrwyr a gymerodd ran yn y gystadleuaeth. Roedd cyfanswm o chwe chystadleuydd gan y Coleg, ac mae cipio dau o’r tri lle uchaf yn llwyddiant anhygoel ar gyfer y myfyrwyr a’u tiwtoriaid.”

Mae gan yr Ysgol TG a Chyfrifiadura hanes hir o gynhyrchu myfyrwyr medrus iawn ac mae’n cyflawni cyfraddau llwyddiant uchel o flwyddyn i flwyddyn.  Mae cyfleoedd gyrfa yn y sector yn aruthrol ac mae gan y Coleg amrywiaeth gyffrous o gyrsiau ar gyfer rhai sydd â diddordeb mewn dylunio gwefannau, gemau ac apia.”