Ffion Jones yn ennill Gwobr Cymdeithas Maldwyn

Llongyfarchiadau i’r myfyriwr o Goleg y Drenewydd Ffion Jones sydd wedi ennill gwobr Cymdeithas Maldwyn am Gyflawniad mewn Addysg Bellach.

Mae Ffion ar hyn o bryd yn cwblhau’r Diploma Estynedig L3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Astudiaethau Iechyd) gyda Thystysgrif Her Sgiliau Uwch Bagloriaeth Cymru ac mae’n llwyddo i ymdopi â dwy swydd ran-amser, yn Siop Sglodion Caersws lle bu’n gweithio ers tair blynedd ac yn Siop Sglodion Jarmen yn y Drenewydd.

Yn ogystal â hyn, gwnaeth Ffion amser i wneud cyfraniadau i’w chymuned leol ac oherwydd hynny dyfarnwyd y wobr iddi.

Mae hi’n Hyrwyddwyr Cyfeillion Dementia, helpodd i godi £320 ar gyfer Cymdeithas Alzheimer, mae’n Gadet yr Heddlu gyda Heddlu Dyfed Powys, yn arweinydd Cadetiaid yng Nghanolfan St. Johns y Drenewydd, wedi cyflawni lleoliadau gwaith yng nghartref nyrsio Bethshan yn y Drenewydd ac yn ysbyty’r Drenewydd, wedi cwblhau gwobrau efydd ac arian Dug Caeredin Efydd a rhywsut wedi dod o hyd i’r amser i’n helpu ni yn ein nosweithiau agored!

Mae Ffion newydd ymgeisio i ddod yn Gwnstabl Gwirfoddol gyda Heddlu Dyfed Powys ac mae wedi cael ei derbyn, felly bydd hi ar y rhawd cyn bo hir, gan roi hyd yn oed mwy yn ôl i’w chymuned leol.

Mae’n bwriadu parhau i weithio fel Hyrwyddwr Dementia ac addysgu pobl am yr hyn yw dementia mewn gwirionedd.

Roedd darlithydd Ffion, Sarah Eskins, wrth ei bodd dros Ffion, a dywedodd: “Mae etheg waith Ffion wedi fy syfrdanu. Mae ganddi fywyd prysur y tu allan i’r coleg, ond mae ei sgiliau rheoli amser a threfnu yn golygu bod y gwaith bob amser yn bodloni terfynau amser.

“Mae hyn o ganlyniad i’r ffaith ei bod yn llawn cymhelliant, yn gydwybodol ac yn ymroddgar. Dydy hi ddim bob amser yn cael y gwaith yn hawdd, ond bydd hi’n dyfalbarhau nes ei bod yn ei ddeall. Mae hi’n ddygn!

“Rwy’n siŵr y bydd Ffion yn cyflawni ei huchelgais i fod yn swyddog yr heddlu gan fy mod yn credu bod ganddi’r bersonoliaeth, y sgiliau a’r penderfyniad cywir i lwyddo.”