Mae Carys yn dod â cherddoriaeth i’n clustiau

Mae Carys Jones, Darlithydd Celf Y Drenewydd, yn hynod o falch o’i gwreiddiau yng Nghymru, ac er ei bod yn adnabyddus yn y coleg am ddathlu ei hangerdd trwy’r celfyddydau creadigol mae hi hefyd yn berfformiwr rheolaidd.

Mae Carys wedi bod yn canu ac yn cystadlu yn yr Urdd Eisteddfod gydag Aelwyd Penllys ers 14 mlynedd. Trwy’r cysylltiad hwn yn ddiweddar cymerodd ran mewn menter ar-lein gyffrous yn cynnwys aelodau eraill o’r Urdd o bob rhan o Gymru a chôr o Alabama.

Ar ddiwrnod Diolchgarwch yn America, daeth partneriaeth arbennig rhwng aelodau’r Urdd a Chôr yr Efengyl ym Mhrifysgol Alabama, Birmingham (UAB) ynghyd i gynhyrchu cân Efengyl yn Gymraeg.  Roedd hwn nid yn unig yn ddarn cydweithredol gwych, ond roedd yn cynnwys ymdrech enfawr gan gôr Efengyl UAB i ddysgu’r Gymraeg.

Roedd y grŵp eisiau manteisio ar y cyfle i estyn llaw o gyfeillgarwch i bobl ifanc ledled y byd mewn cyfnod heriol i rannu cysur a gobaith.

Roedd Côr Efengyl UAB i fod i ymweld â Chymru ac Eisteddfod Genedlaethol Urdd ond bu’n rhaid gohirio’r daith oherwydd COVID 19.  Dechreuodd cyfarfodydd rhithwir a sefydlwyd côr rhithwir i gadw’r cysylltiad rhyngwladol, gan roi cyfle i bobl ifanc yng Nghymru gysylltu â phobl ifanc yng Ngogledd America a mynd â Chymru a’r Gymraeg i’r byd.

Dechreuodd y cysylltiad rhwng Cymru ac Alabama ym 1960 pan ddechreuodd cysylltiadau Cymreig â’r gymuned Americanaidd Affricanaidd yn dilyn bomio dieflig eglwys yn Alabama gan y Klu Lux Klan.  Fe roddodd pobl Cymru ffenestr liw i’r eglwys mewn undod a adwaenir hyd heddiw fel ffenestr Cymru.

Wrth siarad am ei rhan yn y cydweithrediad dywedodd Carys: ”Roedd y profiad o ganu mewn côr digidol yn dra gwahanol ond yr un mor arbennig. Roedd canu efengyl am y tro cyntaf yn llawer o hwyl, ac mae gen i gymaint o barch at aelodau Côr UAB, Alabama am ddysgu’r gân hon yn Gymraeg.’