Anrhydeddau Graddio Grŵp Colegau NPTC

Ymunodd James Hook a Dr Gaynor Richards MBE DL, sef Cymrodyr er Anrhydedd, â mwy na 300 o raddedigion Grŵp Colegau NPTC, yn eu capiau a’u gwisgoedd academaidd, mewn seremoni arbennig.

Dyma’r seremoni raddio ffurfiol gyntaf a gynhelir yn ystod y tair blynedd ddiwethaf, lle yr oedd sawl garfan o fyfyrwyr o 2020-2022 yn mynnu sylw o’r diwedd o flaen darlithwyr, teuluoedd, ffrindiau ac urddolion cyn dod yn aelodau swyddogol o gyn-fyfyrwyr y Coleg.

Roedd y seremoni, a gynhaliwyd yn Arena Abertawe yn adlewyrchu’r partneriaethau sydd gan y Coleg gyda Phrifysgol De Cymru, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Glyndŵr. Partneriaethau sy’n ei alluogi i gynnig rhaglenni lefel prifysgol yn cynnwys tystysgrifau cenedlaethol uwch, diplomâu cenedlaethol uwch, graddau sylfaen, graddau a chymwysterau a dderbynnir yn rhyngwladol.

Ymunodd cyn-fyfyriwr y Coleg a chwaraewr rygbi proffesiynol James Hook â’r graddedigion ar y llwyfan i dderbyn ei gymrodoriaeth er anrhydedd.  Treuliodd James ei blentyndod yn chwarae rygbi ysgol a rygbi clwb ym Mhort Talbot cyn symud ymlaen i Goleg Castell-nedd lle yr oedd yn cynrychioli’r Coleg fel gwib-hanerwr.    Roedd ganddo yrfa ddisglair gyda Chlwb Rygbi Pêl-droed Castell-nedd, y Gweilch, Perpignan, Caerloyw, Cymru, Llewod Prydeinig a Gwyddelig a’r Barbariaid. Dywedodd ei fod wrth ei fodd i dderbyn yr anrhydedd a dyma ei neges ar gyfer y graddedigion newydd sbon – anelu’n uchel “a gosod eich bar eich hun’.

Rhoddwyd cymrodoriaeth er anrhydedd hefyd i Dr Gaynor Richards MBE DL, sy’n Gyfarwyddwr CVS Castell-nedd Port Talbot. Am fwy na degawd, roedd Gaynor yn Gadeirydd Llywodraethwyr y Coleg o 2011 tan 2021, yn goruchwylio’r broses uno rhwng Coleg Castell-nedd Port Talbot a Choleg Powys.  Yn 2012, derbyniodd Fedal y Canghellor mewn cydnabyddiaeth o’i chyfraniad arwyddocaol i’r Coleg.  Mae Gaynor yn parhau i chwarae rôl arweiniol wrth ddatblygu’r cyfranogiad a wneir gan sefydliadau gwirfoddol, grwpiau cymunedol ac unigolion yn y sector gwirfoddol.  Mae ei chyfraniadau wedi dylanwadu newidiadau ym meysydd y Blynyddoedd Cynnar, Addysg, Iechyd, Gwydnwch Cymunedol a Chyflogadwyedd. Mae ei chyflawniadau a’i hanrhydeddau yn niferus ac yn cynnwys sefydlu’r Fenter Gymdeithasol Gofal Plant Annibynnol gyntaf yng Nghymru; mae hi’n aelod o’r Comisiwn Annibynnol i adolygu Cynllun Sector Gwirfoddol y Cynulliad; Gweithgor Menter Gymdeithasol Cynulliad Cymru; Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe; ac yn Hyrwyddwr Plant a Phobl Ifanc a Hyrwyddwr y Gymraeg. Mae ei hanrhydeddau yn cynnwys MBE am wasanaethau rhagorol i’r sector Gwirfoddol a Chymunedol; Doethur Anrhydeddus yn y Gyfraith (LLD Anrh) gan Brifysgol Abertawe; cael ei phenodi yn Ddirprwy Arglwydd Raglaw Gorllewin Morgannwg ac Uchel-Siryf Gorllewin Morgannwg.

Mae Gaynor yn parhau i arwain a hyrwyddo achosion da ac fe’i penodwyd yn ddiweddar yn Gadeirydd Bwrdd Partneriaeth Gofalwyr Rhanbarthol Gorllewin Morgannwg ac Arweinydd Cynhyrchu ar y Cyd Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg.

Y Gymrodoriaeth er Anrhydedd yw’r anrhydedd uwch y gall Grŵp Colegau NPTC roi i aelodau’r cyhoedd mewn cydnabyddiaeth o gyfraniad rhagorol i bobl Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Sir Powys a Chymru. Dros y deg mlynedd ddiwethaf, mae’r Coleg wedi rhoi cymrodoriaethau i lawer o unigolion yn cynnwys Ryan Jones seren y byd rygbi, yr actor Michael Sheen, Amddiffynnwr Cymru Ben Davies, Suzy Drane o Bêl-rwyd Cymru a llu o unigolion eraill.

Yn ei haraith yn y seremoni, dywedodd Catherine Lewis y Prif Weithredwr a Phennaeth Dros Dro Grŵp Colegau NPTC: “Rydyn ni’n hynod o falch o’n holl fyfyrwyr ac fel graddedigion Grŵp Colegau NPTC, rydych nawr yn ymuno â’r miloedd o gyn-fyfyrwyr sydd yn ein cynrychioli ar draws y byd. Rydyn ni’n ymrwymedig fel sefydliad i weithio mewn partneriaeth â’n myfyrwyr gan wrando ar yr hyn sy’n bwysig i chi fel myfyrwyr. Roedd ein hymrwymiad yn amlwg yn yr Arolwg Cenedlaethol i Fyfyrwyr wrth i ni gyflawni cyfradd o 94% o ran boddhad myfyrwyr, llawer yn uwch na chyfartaledd y sector.  Cawson ni hefyd sgôr o 100% o ran boddhad myfyrwyr gyda’r cyrsiau a gynigir dan fraint Prifysgol De Cymru. Ym mis Mehefin 2022, cymeradwywyd ansawdd ein darpariaeth addysg uwch gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd, a derbyniwyd chwe chymeradwyaeth gennym yn cynnwys un ar gyfer ein hymrwymiad i ymgysylltiad myfyrwyr – rhywbeth sy’n galluogi myfyrwyr i gyfrannu at ansawdd cyffredinol y ddarpariaeth. I’r holl raddedigion newydd, mae heddiw yn golygu dechrau pennod newydd yn eich bywydau yn hytrach na diwedd taith.”