BBC Cymru yn Ffilmio Gwaith ar Waith Gyda Choleg y Drenewydd a Phrentisiaid Eva Build

Evabuild apprentices in high vis on a building site.

Daeth BBC Cymru i’r Drenewydd yr wythnos hon i gael cipolwg ar gyfleoedd prentisiaeth a’r mentrau a ddarperir yn y Canolbarth.

Fe wnaeth Alec Thomas, Rheolwr Dysgu Seiliedig ar Waith ar gyfer Hyfforddiant Pathways yng Ngrŵp Colegau NPTC helpu i daflu goleuni ar sut mae cynlluniau prentisiaeth yn gweithio a siaradodd â BBC Cymru am y berthynas gadarnhaol sydd gan Goleg y Drenewydd â’r cyflogwr adeiladwaith lleol Eva Build.

Mae’r cynllun prentisiaeth, sy’n cael ei redeg gan Adran Hyfforddiant Pathways Grŵp Colegau NPTC ochr yn ochr â llawer o gyflogwyr lleol, yn darparu opsiwn cyffrous i’r rhai sydd am gael hyfforddiant ymarferol a’r cyfle i roi eu sgiliau ar waith. Yn ddiweddar, mae’r coleg wedi cynyddu’r cwmpas ar gyfer prentisiaethau sydd ar gael, gan ymgysylltu â chyfleoedd yn yr ardal a bodloni’r galw am ddysgu yn y gwaith.

Mae gan gwmni adeiladwaith Eva Build arbenigedd mewn Gwaith Tir Modiwlaidd, Peirianneg Sifil a Gwaith Tir Cyffredinol. Mae ganddynt berthynas hirsefydlog yn gweithio gyda’r coleg i gefnogi prentisiaid. Yn wir, enillodd dau o’u prentisiaid Wobrau Dysgwr y Flwyddyn Prentis yn y Coleg, Danny Foulkes 2018, a Jez Wheeldon 2022.

Yn fwy diweddar mae Eva Build wedi cynyddu eu hymrwymiad i ddarparu cyfleoedd pellach i bobl ifanc sydd am ennill arian wrth iddynt ddysgu. Maent wedi agor cyfleoedd i brentisiaid mewn Gwaith Tir, Gosod Brics a Pheirianneg Sifil. Cyfarfu Phil Jones, Rheolwr Addysg a Hyfforddiant Eva Builds, ag Alec Thomas i weld sut oedd y recriwtiaid eleni yn dod ymlaen.

Trwy gydweithio, ar hyn o bryd mae gan Eva Build a’r coleg bedwar prentis ym mlwyddyn gyntaf cwrs Gwaith Tir Lefel 3 3 blynedd ac un prentis Gosodwr Briciau ar Lefel 3 gyda chynlluniau i gynyddu niferoedd yn y dyfodol.

Bydd y prentisiaid yn cael buddion cyflogai mewn rôl â thâl gyda chontract cyflogaeth a gwyliau. Byddant hefyd yn cael eu hasesu yn y gweithle yn ogystal â mynychu darlithoedd yn y coleg fel rhan o’u hastudiaethau Lefel 3.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Ddysgu Seiliedig ar Waith, ffoniwch Hyfforddiant Pathways 0330 818 9442 neu ewch i’n tudalen Prentisiaethau isod.

Prentisiaethau