Dosbarth Meistr gan Bronwen Lewis yn taro tant gyda Myfyrwyr

Singer Bronwen Lewis with a group of College students after writing their own song

Cafodd myfyrwyr o Goleg Castell-nedd ddosbarth meistr anhygoel gyda’r gantores/gyfansoddwraig Bronwen Lewis yn ddiweddar.

Roedd cyfle i myfyrwyr dysgwyr gefnogaeth, gofalwyr ifanc a myfyrwyr targed siarad â Bronwen am ei gyrfa hyd yn hyn, holi cwestiynau am y broses o gyfansoddi caneuon a hyd yn oed rhoi cynnig ar ysgrifennu a pherfformio eu ‘Hanthem Iechyd a Llesiant’ eu hunain.

Mae Bronwen, Cantores/Cyfansoddwraig o Gastell-nedd yn gyn-gystadleuydd ar The Voice, gan dderbyn clod rhyngwladol pan ddaeth â dagrau i lygaid y seren bop Gymreig Tom Jones yn ystod un o’i pherfformiadau yn 2013. Flwyddyn yn ddiweddarach, canodd y gân thema ‘Bread and Roses’ yn y ffilm ‘Pride’ a enillodd wobr BAFTA.

Yn ystod y cyfnod clo, aeth Bronwen ymlaen i ennill sylfaen cefnogwyr enfawr pan berfformiodd dros 45 o gyngherddau, yn rhithwir, o’i stiwdio gartref. Aeth ei fideos TikTok, lle mae’n canu fersiynau o ganeuon pop enwog yn Gymraeg, yn firaol hefyd, gan gael eu gwylio cannoedd o filoedd o weithiau, a chael sylw ar Breakfast Show BBC Radio 1 gyda Greg James. Yn fwyaf diweddar mae hi wedi ymuno â BBC Radio Wales i gyflwyno ei sioe ei hun!

Nid myfyrwyr Cerddoriaeth yn unig a gafodd y cyfle i ddysgu gan Bronwen –  perfformiodd hi hefyd yn ystod yr egwyl amser cinio a oedd yn agored i bawb yng Ngholeg Castell-nedd. Ariannwyd y digwyddiad gan ein hadran Addysg Uwch.

Roedd Vicky Burroughs, pennaeth Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio yn falch iawn o groesawu Bronwen i’r Coleg a dywedodd: “Roedden ni’n gyffrous iawn am groesawu Bronwen i’r Coleg ac roedd y myfyrwyr yn edrych ymlaen at gwrdd â’r seren a’r perfformiwr Cymreig.

Mae dosbarthiadau meistr yn galluogi myfyrwyr i ddysgu oddi wrth weithwyr proffesiynol y diwydiant. Rhoddodd Bronwen weithdy craff am ochr dechnegol y diwydiant yn ogystal â’r ochr berfformio.

Roedd gweithio gyda’r myfyrwyr i ysgrifennu a pherfformio eu cân eu hunain yn brofiad gwirioneddol unigryw ac yn ddiwrnod na fydd y myfyrwyr byth yn ei anghofio!”