Ysgol Coedwig yn Agor Fel Menter Natur Rhwng Coleg Bannau Brycheiniog ac Ysgol y Bannau

Two young female students and a nature worker moulding clay pots.

Bydd gofod dysgu awyr agored newydd yn cael ei rannu gan Ysgol y Bannau a Choleg Bannau Brycheiniog ym Mhenlan, Aberhonddu. Oherwydd partneriaeth rhwng y ddau wasanaeth cyhoeddus, bydd ‘Ysgol Coedwig’ yn ofod dysgu i fyfyrwyr 4 oed a hŷn. Y gred yw y bydd cynyddu dysgu yn yr awyr agored i bob myfyriwr o fudd i’w lles, eu creadigrwydd, a’u gwybodaeth am yr argyfyngau hinsawdd a natur. Mae’r ardal eisoes yn cynnwys coed, mannau gwyrdd agored a phwll tân, ac mae’r ddau sefydliad bellach yn ceisio am gyllid i greu gofod dysgu cysgodol drwy gydol y flwyddyn.

Ffurfiwyd y bartneriaeth rhwng y ddau sefydliad yn wreiddiol yn 2019 pan roddwyd caniatâd i Ysgol y Bannau rannu defnydd o dir y Coleg i greu Ysgol Coedwig. Ar y pryd, rhoddodd Grŵp Colegau NPTC (y mae Coleg Bannau Brycheiniog yn rhan ohono) gyllid i adeiladu mynedfa porth a grisiau yn uno Ysgol y Bannau â thir Ysgol Coedwig. Yn dilyn y pandemig, mae’r partneriaid yn hyrwyddo cyfleoedd addysgol yn y gofod gyda gwaith gwirfoddol a gweithgareddau aml-oedran.

Mae’r gweithgareddau aml-oedran arfaethedig yn cynnwys gwersi gan fyfyrwyr gofal plant y Coleg i blant cynradd Ysgol y Bannau fel rhan o waith cwrs yn seiliedig ar brofiad. Bydd y dysgwyr Porth, Garddwriaeth a Gwasanaethau Cyhoeddus yn y Coleg yn elwa’n sylweddol hefyd o blannu coed newydd, gweithgareddau awyr agored a chyfleoedd tyfu bwyd ar y tir.

Ar hyn o bryd, mae staff y Coleg wedi rhoi help llaw i’r prosiect drwy wirfoddoli gyda gwersi Ysgol Coedwig i blant Ysgol y Bannau. Mae’r Tiwtor Gwasanaethau Cyhoeddus, Simon New, a’r artist lleol, Tanwen, ill dau wedi sefydlu dosbarthiadau wythnosol i’r plant, gyda grŵp gwahanol yn cymryd rhan bob tymor. Mae’r gweithgareddau’n cyd-fynd yn dda â’r cwricwlwm newydd i Gymru, gyda chrwydro am ddim ar gyfer chwarae creadigol, gan gynnwys crochenwaith, chwaraeon ar y glaswellt, gwneud tân a choginio arno, ac adeiladu strwythurau den o’r planhigion sydd ar gael.

Wrth siarad am eu horiau ychwanegol yn gwirfoddoli ar gyfer y prosiect, dywedodd Simon: “Mae Tanwen a minnau wedi bod yn cynnal sesiynau Ysgol Coedwig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r sesiynau fel siwrnai i’r plant, gan ganiatáu iddyn nhw chwarae’n rhydd mewn gofod gwyllt o dan ein goruchwyliaeth ni. Rydyn ni eisiau ehangu mwy ar ein gweithgareddau ni drwy gael gofod astudio mwy parhaol a mwy o ardaloedd, fel darn cloddio pwrpasol.”

“Mae’n wych gweld o’r gwersi sut mae rhai plant tawel, swil eisoes yn dechrau mwynhau bod allan yn fwy.”

Am stori Ysgol Coedwig hyd yn hyn ac i’r dyfodol, ychwanegodd Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol y Bannau, Tim Morgan: “Rydyn ni’n falch iawn o Ysgol Y Bannau, mae’n ysgol wych sy’n datblygu dinasyddion Cymru yn y dyfodol mewn amgylchedd dysgu gofalgar, datblygiadol ac arloesol. Mae’r bartneriaeth yma gyda Grŵp Colegau NPTC yn gyfle arall i’n plant ni ddysgu ochr yn ochr â’n cymuned, ond hefyd iddyn nhw addysgu eraill am yr iaith Gymraeg, ein diwylliant gwych a’r holl straeon barddoniaeth a’r caneuon maen nhw’n eu gwybod mor dda.”

Mae Pennaeth Grŵp Colegau NPTC, Mark Dacey, hefyd yn credu’r canlynol: “Mae’r mannau dysgu awyr agored yma’n amgylchedd gwych i’n dysgwyr ifanc ni ddatblygu perthnasoedd cadarnhaol, cofleidio ffyrdd newydd o gyfathrebu, gwella eu gallu i ddysgu ac annog parch dyfnach at yr amgylchedd o’n cwmpas ni. Mae Grŵp Colegau NPTC yn falch o fod yn rhan o’r ffyrdd newydd ac arloesol yma o ddysgu ym Mhowys gyda’n partneriaid ni yn Ysgol y Bannau.”