Darlithydd Chwaraeon Andy Davies yn Ennill Efydd yng Nghroatia

Sport lecturer Andy Davies with a 50k running medal around his neck.

Yn ddiweddar, llwyddodd Andy Davies, darlithydd Coleg y Drenewydd, i gymryd rhan yn ras hiraf ei yrfa hyd yn hyn gan ennill y trydydd safle mewn cyflawniad anhygoel, gan sicrhau ei le i gymryd rhan yn ras anoddaf y byd, yr Ultra Trail du Mont Blanc (UTMB) i’w chynnal yn ddiweddarach eleni.

Mae Andy yn ddarlithydd Chwaraeon yng Ngholeg y Drenewydd ac wedi cael llwyddiant mewn nifer o rasys gan orffen fel Deiliad Record Prydain ym Marathon Seville 2022. Disgrifir yr Istria 100 a gynhelir yng Nghroatia fel y “ras llwybr mwyaf chwedlonol yn y byd”. Gorffennodd Andrew y ras y tu ôl i’r enillydd, Stian Angermund, a’r athletwr yn yr ail safle, Andrzej Witek yn y ras 69km (43 milltir) a oedd yn cynnwys uchder o bron i 2,500m.

“Roedd yn her frawychus i redeg am gyfnod mor hir ond rwy’n falch iawn o sut aeth hi yn y diwedd!” meddai Andy. “Cefais fy ysgogi ar y ffordd gan y nod i gyflawni dim llai na’r trydydd safle i gymhwyso ar gyfer UTMB, felly roedd ei gael yn wych. Dydw i ddim wedi bod yn rhan o redeg llwybr ers rhai blynyddoedd felly roedd yn dipyn o brawf i weld sut y byddai’n mynd ac mae rhai cystadleuwyr arbennig o dda yn y maes hwn felly roedd yn dda iawn.”

Mae Andy bellach wedi cymhwyso ar gyfer ras 56 Km yr OCC (Orieres -Champex-Chamonix) yng ngŵyl redeg UTMB yn Ffrainc, ras sy’n enwog am ddod â’r athletwyr gorau ynghyd i gystadlu mewn amrywiaeth o rasys heriol a gynhelir rhwng Awst 28 a Medi 3.

Dywedodd Pennaeth Chwaraeon Grŵp Colegau NPTC Barry Roberts, “Mae Andy yn profi unwaith eto os ydych yn rhoi eich meddwl ar her, fe allwch chi ei chyflawni – mae’n llysgennad gwych i’n myfyrwyr yng Ngrŵp Colegau NPTC. Pob lwc Andy gyda’ch marathon nesaf yn Zermatt ym mis Gorffennaf, rydyn ni i gyd yn dymuno’r gorau i chi.”

I gael gwybod rhagor am gyrsiau Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus yng Ngholeg y Drenewydd clicwch isod.

Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus