Dysgwyr Adeiladwaith yn Cael Hyfforddiant yn y Model Meddwl Rheoli Tsimpansîaid

Time Buckle from Chimp Managment giving a presentation to construction students.

Mae Grŵp Colegau NPTC wrth ei fodd i gyhoeddi partneriaeth gyda sefydliad yr Athro Steve Peters sef ‘Chimp Management’. Mae’r Athro Peters wedi gweithio gyda chleientiaid o ystod o sectorau, yn cynnwys gofal iechyd, busnes a chwaraeon.  Mae nifer o sefydliadau’r DU ac unigolion amlwg wedi trafod sut y mae model unigryw yr Athro Peters wedi eu helpu i wella eu perfformiad.

Darparwyd gweithdai i fyfyrwyr adeiladwaith yn y Coleg ar y  Model Tsimpansîaid, sy’n helpu pobl i ddeall sut y mae’r meddwl yn gweithio, fel y gallant ddatblygu’r mewnwelediad a’r sgiliau angenrheidiol i gael y gorau ohonynt eu hunain a phobl eraill. Cyflwynwyd y sesiynau dengar yng Ngholeg Castell-nedd, Coleg Bannau Brycheiniog a Maesteg a Chanolfannau Adeiladwaith Abertawe gan Tim Buckle, Mentor Sgiliau Chimp Management a chyn-feiciwr proffesiynol. Yn ystod y sesiynau, dangosodd Tim rannau amrywiol yr ymennydd i’r dysgwyr. Yn y bon, mae hyn yn cynnwys y rhan seiliedig ar ffeithiau (rhesymol) a’r rhan emosiynol (afresymol) o’r ymennydd. Pwynt allweddol oedd hyfforddi’r dysgwyr i adnabod pryd y gallai’r rhan emosiyno,l o’r enw’r system dsimpansîaid, gael ei danio wrth ddelio â gwrthdaro yn ystod swyddi Adeiladwaith.  Er enghraifft, os yw cwsmer yn mynd yn grac ynglŷ ag ansawdd y gwaith llaw.

Esboniodd Tim ei bod yn naturiol teimlo’n grac neu’n amddiffynnol mewn ymateb, nes i ran o’r ymennydd sy’n seiliedig ar ffeithiau gychwyn arni er mwyn i’r sefyllfa gael ei hystyried yn gyfannol.  Dyma sut mae ymennydd y tsimpansî yn gweithio fel arfer, am fod ei ymennydd yn cael ei lywio gan y rhan emsoiynol (afresymol).  Yn sesiynau Tim, dysgwyd y myfyrwyr sut i aros cyn adweithio yn y fath sefyllfaoedd ac fel canlyniad, sut i wella eu hamodau gweithio a chyrraedd ymdeimlad o lesiant.

Sylwodd Ian Lumsdaine, Cyfarwyddwr Astudiaethau yn y Coleg ar bwysigrwydd cydweithredu: “Rydyn ni wrth ein bodd ein bod wedi llwyddo i gyflogi’r Athro Peters a Tim Buckle i ffurfio rhan o raglen sy’n helpu ein myfyrwyr i ddatblygu eu gwydnwch a’u cryfder.  Mae iechyd meddwl yn bryder arbennig i bobl ifanc ac mae’r bartneriaeth hon wedi helpu’r Coleg i gynnig cyngor a chyfarwyddyd ymarferol o lygad y ffynnon ynglŷn â sut i ddelio â hyn.”

“Mae wedi bod yn beth braf derbyn adborth mor gadarnhaol gan fyfyrwyr a staff am y sesiynau ac edrychwn ymlaen at ddyfodol ein partneriaeth lwyddiannus barhaus gyda Chimp Management.”

Dywedodd Tim Buckle Mentor Sgiliau Chimp Management: “Mae darparu’r sesiynau hyn i fyfyrwyr Grŵp Colegau NPTC wir wedi bod yn bleser ac yn werth chweil iawn.  Mae’r Coleg wedi creu pont gwych i’r myfyrwyr, gan roi’r cyfle iddynt ddatblygu eu sgiliau rheoli tsimpansîaid a darparu amgylchedd cymorth cefnogol i lawer o bobl ifanc nad ydynt wedi profi hyn o’r blaen ac nad oes modd iddynt greu’r fath amgylchedd drostynt eu hunain.”

I gael mwy o wybodaeth am y Model Rheoli Tsimpansîaid, ewch i: https://chimpmanagement.com