Partneriaeth prifysgol a choleg newydd i rymuso dysgwyr a chyflogwyr i gael mynediad i sgiliau technegol uwch ar draws Cymru

University of Wales Technical Institutes greyscale logo

Heddiw, bydd pum coleg AB a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn lansio rhwydwaith newydd o Athrofeydd Technegol Uwch i fynd i’r afael â thanberfformio ym marchnad lafur Cymru. Daw’r lansiad wrth i ddadansoddiad manwl diweddar o ddeallusrwydd marchnad lafur ddatgelu ei bod 40 y cant yn llai gweithredol na chyfartaledd y DU gyda chyflogau canolrifol a hysbysebwyd yng Nghymru 13 y cant o dan gyfartaledd y DU.

Wrth i economi Cymru adfer ar ôl y pandemig, ac wrth i weithwyr straffaglu gyda’r argyfwng costau byw, bydd y bartneriaeth yn defnyddio grymoedd Prifysgol Cymru i ddod â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a’i cholegau cyfansoddol, sef Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion, yn ogystal â Grŵp Coleg Caerdydd a’r Fro, Grŵp Colegau Castell-nedd Port Talbot, a Choleg Sir Benfro, at ei gilydd i ffurfioli’r rhwydwaith.

Cyn y lansiad, a fydd yn cynnwys ymateb gan Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, meddai’r Athro Medwin Hughes, DL, Is-Ganghellor:

“Rydym yn ymateb i Lywodraeth Cymru a’r Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru). Dengys tystiolaeth yr ymchwil diweddar yn glir bod angen brys i ddiwygio darpariaeth sgiliau lefel uwch a’n hymrwymiad fel rhwydwaith i chwarae ein rhan yn y broses hon.”

Bydd y bartneriaeth yn sefydlu rhwydwaith o Athrofeydd Technegol Prifysgol Cymru i gyflwyno rhaglen o gymwysterau technegol uwch ar draws sectorau blaenoriaeth economaidd a chymdeithasol wedi’u gyrru gan anghenion cyflogwyr.  Bydd yn darparu cyfleoedd dysgu uwch yn agosach at adref a chynnig cryfach i ‘ennill wrth ddysgu’ trwy astudio’n rhan amser a phrentisiaethau.

Cynhaliodd Lightcast, dadansoddwyr y Farchnad Lafur Fyd-eang, ei ddadansoddiad tua diwedd 2022. Nododd bod marchnad lafur Cymru yn tueddu bod 40 y cant yn llai gweithgar na’r DU, sy’n awgrymu efallai bod cyflogwyr yn ei chael yn anoddach llenwi swyddi gwag. Nododd bod cyflogau canolrifol a hysbysebwyd yng Nghymru 13 y cant yn is na chyfartaledd y DU. Nododd yr adroddiad bod marchnad recriwtio graddedigion Cymru 25 y cant yn fwy gweithgar na chyfartaledd Cymru.

Gan ymateb i’r adroddiad, dywedodd Iestyn Davies, Pro Is-Ganghellor a Deon Addysg, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol:

“Mae’r adroddiad hwn yn rhoi i ni fewnwelediad gwerthfawr i’r farchnad lafur bresennol yng Nghymru gan alw am ffordd newydd o gyflwyno, ariannu a rheoleiddio darpariaeth sgiliau lefel uwch. Mae angen rhagor o sgiliau ar lefel raddedig wedi’u cyflwyno mewn ffordd sy’n gweddu i fywydau go iawn ein dinasyddion.”

Noddir y digwyddiad gan Elin Jones AS, Llywydd, ac fe fydd yn cynnwys cyflwyniad i’r rhwydwaith gan Mike James, Prif Weithredwr, Grŵp Colegau Caerdydd a’r Fro ar ran y bartneriaeth AB. Gan siarad cyn y digwyddiad, meddai Mike James:

“Mae pob un o’n cydweithwyr wedi adeiladu partneriaethau cryf gyda phrifysgolion Cymru ac rydym wedi ymrwymo i barhau gyda hyn. Mae’r bartneriaeth newydd a chyffrous hon yn cynnig sector deuol, cydlynol wedi’i adeiladu ar bartneriaeth a chydweithredu diffuant.”