Newydd ar gyfer 2024 – Carlamwch at eich Dyfodol gyda Grŵp Colegau NPTC

Blue infographic with text reading "New Free Part-Time and Full-Time January Courses" in Welsh and English.

Mae gan Grŵp Colegau NPTC amrywiaeth o gyrsiau rhan-amser am ddim* ac amser llawn yn dechrau ym mis Ionawr, a fydd yn eich helpu i gael eich addysg yn ôl ar y trywydd iawn, uwchsgilio neu symud ymlaen yn y gwaith, neu hyd yn oed eich rhoi ar ben ffordd at yrfa eich breuddwydion.

Mae gennym ni gyrsiau i bawb, o TGAU, Gwallt, Harddwch a Cholur i Adeiladwaith, Garddwriaeth a Lletygarwch. Yn sicr mae yna rywbeth at ddant pawb.

Gall cyrsiau rhan-amser wella rhagolygon swyddi neu roi hwb i yrfa newydd sbon mewn sawl sector, yn enwedig y rhai lle mae prinder sgiliau. Byddwch yn gallu ennill sgiliau a chymwysterau newydd y mae cyflogwyr lleol yn chwilio amdanynt. Bydd ein cyrsiau yn eich helpu i symud ymlaen yn eich rôl bresennol, neu i newid gyrfa yn gyfan gwbl. Mae ein cyrsiau hyblyg yn rhedeg trwy gydol y flwyddyn, gyda dosbarthiadau bach yn cynnig cefnogaeth un-i-un.

Graphic in English and Welsh with purple background and title Multiply Your Skills with some cartoon mathematical symols and a calculator.

Lluoswch Eich Sgiliau

Mae Grŵp Colegau NPTC wedi lansio amrywiaeth o gyrsiau rhad ac am ddim a ariennir gan y llywodraeth i helpu oedolion a theuluoedd i wella eu sgiliau rhifedd a mathemateg.

Mae sgiliau rhifedd a mathemateg yn hanfodol ym mhob agwedd ar fywyd. Maent yn datgloi cyfleoedd gwaith, yn eich helpu i gadw rheolaeth ar eich arian, yn eich galluogi i helpu eich plant gyda gwaith cartref neu eich paratoi i gamu’n ôl i addysg neu symud ymlaen yn eich gyrfa.

Mae’r cyrsiau ar gael i drigolion Castell-nedd/Port Talbot 19 oed a throsodd nad oes ganddynt TGAU Mathemateg ar hyn o bryd. Bydd ein cyrsiau rhad ac am ddim trwy Multiply yn adeiladu eich hyder gyda rhifau ac yn eich galluogi i ennill cymhwyster cydnabyddedig. Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Gallwch ymrestru ar-lein nawr ar gyfer ein cyrsiau ym mis Ionawr neu ddod i’n nosweithiau agored sydd ar ddod i ymrestru’n bersonol ar y dyddiadau isod:

Dydd Mawrth, 16 Ionawr – Coleg Afan a Choleg Bannau Brycheiniog

Dydd Mercher, 17 Ionawr – Coleg Castell-nedd a Choleg Y Drenewydd

4:30 pm – 7:30 pm

I ddarganfod mwy am y cyrsiau sydd ar gael ym mis Ionawr, ewch i:

Cyrsiau Ionawr

*Telerau ac Amodau Cyrsiau Rhan-Amser Am Ddim

  1. Bydd ffioedd cwrs perthnasol am ddim.
  2. Gellir cynnal ymgynghoriad i benderfynu ar gymhwysedd a ffrydiau ariannu sydd ar gael, lle bo angen.
  3. Gall costau ychwanegol megis deunyddiau, aelodaeth broffesiynol a ffioedd arholiad fod yn berthnasol.