Myfyrwyr Tylino Chwaraeon yn Torchi Llewys

Y tymor hwn, cafodd ein myfyrwyr Tylino Chwaraeon y pleser o weithio gyda thîm Rygbi Cynghrair Cymru.

Cafodd tîm Cymru dylino chwaraeon ar ôl digwyddiadau i hwyluso adferiad o hyfforddiant ac i baratoi ar gyfer eu gemau sydd i ddod gan ein myfyrwyr Tylino Chwaraeon Lefel 3 a 4 yng Ngholeg Afan.

Trefnwyd y sesiwn gan y tiwtor, Wayne Robson-Brown, ar y cyd â hyfforddwr tîm cyntaf carfan Cymru.

Roedd tîm rheoli Rygbi Cynghrair Cymru yn llawn canmoliaeth am y myfyrwyr, gan nodi bod eu hymddygiad proffesiynol a’u darpariaeth o dylino chwaraeon yn wych. Ychwanegwyd hefyd y byddent yn bendant yn gweithio gyda’r myfyrwyr eto gan fod y triniaethau a ddarparwyd ganddynt yn rhagorol.

Defnyddiodd y myfyrwyr amryw dechnegau, gan gynnwys effleurage, petrisage a tapotement. Perfformiwyd y rhain ar ystod o gyhyrau, gan orchuddio’r coesau, y cefn, y gwddf a’r ysgwyddau. Ymgorfforwyd ymestyn goddefol rhai grwpiau cyhyrau, megis cyhyrau’r llinyn y gar, hefyd i adfer ystod arferol symudiad cymalau cyn ymarfer.

Mwynhaodd y myfyriwr Lefel 3 Samuel Johnston a’r myfyriwr Lefel 4 Helen Wilkshire y profiad:

Dywedodd Samuel:

“Roedd gweithio gyda Thîm Rygbi Cynghrair Cymru yn brofiad gwych; fe helpodd fi i ddysgu mwy am Therapi Tylino Chwaraeon. Caniataodd i mi ymarfer sgiliau a ddysgais yn y coleg a’u cymhwyso i athletwyr a oedd â gofynion penodol i’w cynorthwyo yn eu hadferiad. Roedd yn gyfle gwych i weithio gyda thîm chwaraeon proffesiynol.”

Ychwanegodd Helen:

“Roedd astudio Tylino Chwaraeon Lefel 4 yng Ngholeg Afan wedi rhoi’r cyfle gwych i mi weithio gyda thîm Rygbi Cynghrair Cymru. Galluogodd y cyfle hwn i mi ddefnyddio’r wybodaeth a’r sgiliau rwyf wedi’u meithrin hyd yma drwy’r coleg a bu’n brofiad gwerthfawr. Rhoddodd hefyd ystod eang o fathau o gyrff ac ardaloedd problemus  penodol i mi eu targedu ymhlith y chwaraewyr, sydd wedi datblygu fy sgiliau ymhellach. Mwynheais y diwrnod yn fawr a theimlais ei fod o werth mawr i mi. Roedd yn wirioneddol amlygu pa mor effeithiol ac effeithlon y bu’r addysgu yng Ngholeg Afan.”

Mae sesiynau fel y rhain yn rhoi cyfle i fyfyrwyr drosi’r sgiliau a’r technegau y maent wedi’u dysgu yn yr ystafell ddosbarth i brofiad byd go iawn gydag athletwyr proffesiynol. Mae gweithio gyda thîm rygbi rhyngwladol yn cefnogi datblygiad y technegau tylino chwaraeon a ddefnyddir gan y myfyrwyr, gan wella eu defnydd mewn lleoliad gwaith go iawn.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn tylino chwaraeon a hoffech chi ddysgu mwy am y cyrsiau rydyn ni’n eu cynnig, cliciwch ar y ddolen isod.

Tylino Chwaraeon