Llwyddiant Prentisiaeth Coleg y Drenewydd

Apprentice Mustafa Wett being presented with a certificate from his assessor and employer.

Mustafa Wetti

Mae Prentis Coleg y Drenewydd, Mustafa Wetti, wedi ennill Gwobr Prentisiaeth Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru.

Cyflwynwyd y wobr i Mustafa gan Y Meistr Uwchgapten John Charles o Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru yng nghwmni Dr Rosie Solbie a’r Athro John Solbie hefyd o’r cwmni. Roedd David Jones (David Jones Carpentry), cyflogwr Mustafa, hefyd yn bresennol yn y seremoni a gynhaliwyd yng Ngholeg y Drenewydd.

Dechreuodd y Meistr John Charles y seremoni gyda throsolwg byr o rôl y Cwmni Lifrai a gwerthfawrogiad o rôl prentisiaethau. Sefydlwyd Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru ddeng mlynedd ar hugain yn ôl i gefnogi talent yng Nghymru, ac mae’n hyrwyddo addysg, gwyddoniaeth, a thechnoleg, gyda ffocws ar sgiliau a gweithgareddau proffesiynol cysylltiedig yng Nghymru. Nod Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru yw datblygu doniau pobl ifanc ledled Cymru.

Mynychodd cyflogwr Mustafa David Jones y seremoni a bu’n canmol Mustafa, gan ei ddisgrifio fel gweithiwr caled, ymroddedig.

Dywedodd Clare Ward, Asesydd Hyfforddiant Pathways Grŵp Colegau NPTC: “Mae Mustafa yn enghraifft wych o sut y gallwch chi gyrraedd eich nod gydag ymroddiad ac ymrwymiad. Daeth Mustafa atom i Goleg y Drenewydd gyda’r awydd i fod yn saer coed. Gyda’i benderfyniad ac anogaeth gan ei gyflogwr David, mae wedi dangos ei fod yn fyfyriwr rhagorol sydd wedi rhagori yn ei waith.”

Codi Jerman

Apprentice Codi Jerman being awarded a certificate by her assessor

Mae Codi Jerman, Gweithiwr Cefnogi yng Nghartref Gofal The Oaks, Y Drenewydd wedi cwblhau ei Phrentisiaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol Oedolion Lefel 2 i gydymffurfio â safonau Gofal.  Dywedodd Codi ei bod wedi ceisio dilyn y cymhwyster hwn fel myfyriwr addysg bellach amser llawn, ond nad oedd hyn yn gweddu i’w hanghenion dysgu. Wrth siarad am y llwybr prentisiaeth, dywedodd:

“Mae hyn wedi rhoi’r hyder a’r sgiliau i mi fynd ymlaen i hyfforddi i fod yn Fydwraig; na fyddwn i erioed wedi meddwl am wneud hynny oni bai imi ennill y cymhwyster hwn”.

Dywedodd Elaine Nicholls, Asesydd Hyfforddiant Pathways Grŵp Colegau NPTC: “Rydym yn falch iawn o’r ffordd mae Codi wedi ymroi i’w hastudiaethau oherwydd ei bod hi hefyd wedi gorfod delio â rhai sefyllfaoedd heriol ar hyd y ffordd. Mae’n dangos, os ydych chi eisiau rhywbeth ddigon, gallwch chi ei gyflawni gyda’r gefnogaeth gywir ac addasol yn ei lle.”

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni:

E-bost

pathwaystraining@nptcgroup.ac.uk

Ffôn

Pathways Coleg Castell-nedd: 0330 818 8002

Pathways Coleg Y Drenewydd: 0330 818 9442