Grŵp Colegau NPTC yn annog ei fyfyrwyr i fod yn Sero Net

Mae Sero Net yn rhywbeth y mae angen i bawb wybod amdano, i helpu i weithio tuag at atal allyriadau carbon ac atal newid hinsawdd, a dyna pam yr ymunodd Grŵp Colegau NPTC ag Ymchwil Sgiliau Sero Net  Ysbrydoli Sgiliau Cymru i gyflwyno cynhadledd gyffrous i fyfyrwyr yn ddiweddar.

Nod y gynhadledd Symposiwm Sgiliau Sero Net: Llunio Dyfodol Addysg Bellach oedd grymuso myfyrwyr trwy feithrin dealltwriaeth ddofn o fentrau sero net yng Nghastell-nedd Port Talbot a Chymru a’u hysbrydoli a’u harfogi i gyfrannu’n weithredol at ddyfodol cynaliadwy a sero net.

Eglurodd Kathryn Dunstan, Cyfarwyddwr Partneriaethau: “Rydym yn falch iawn o gynnal y Symposiwm Sgiliau Sero Net cyntaf yn y Coleg. Mae hwn yn gydweithrediad â nifer o wahanol arddangoswyr a siaradwyr o bob rhan o’r diwydiant. Mae ein rhanbarth yn newid ac mae cyfleoedd newydd i’n myfyrwyr yn dod i’r amlwg drwy’r amser.

Mae ein myfyrwyr yn dod o ddetholiad o gyrsiau, o Adeiladwaith, Gwasanaethau Adeiladu a Pheirianneg, a’n myfyrwyr STEM, i arddangos y cyfleoedd sydd ar gael iddynt yn y rhanbarth ac a fydd ar gael iddynt yn y dyfodol.”

Agorwyd y gynhadledd gan y Cynghorydd Jeremy Hurley, Aelod Cabinet Castell-nedd Port Talbot dros Newid Hinsawdd a Thwf Economaidd, a esboniodd y llu o fentrau sydd eisoes ar waith gan yr awdurdod lleol i fynd i’r afael â newid hinsawdd a’r prosiectau mawr, cynaliadwy ar gyfer y dyfodol, gyda llawer ohonynt yn ymwneud ag ynni gwyrdd, a fydd yn darparu amrywiaeth o swyddi a llwybrau gyrfa i’n myfyrwyr.

Croesawodd y Coleg ystod amrywiol o fusnesau â ffocws cynaliadwy, gan gynnwys Morgan Advance Materials, Bute Energy, Academi Sero Net Grŵp Colegau NPTC ei huin, Y Lle Da Castell-nedd, Benthyg Cymru, Prifysgol Abertawe, cwrs Ffasiwn Cynaliadwy Grŵp Colegau NPTC, Wildfox Ltd a Sgiliau Adeiladu Cyfle, a gymerodd ran mewn cylched cyflym gyda’r myfyrwyr.

Cynhaliwyd gweithdai rhyngweithiol gan Phill Williams o Pla-It Eco, yn canolbwyntio ar yr effeithiau ar y goedwig law (need to check this), a Jonathan Morris o Tai Tarian a Richard Hawkins o SO Modular ynglŷn â sut mae’r diwydiant yn ymdrechu am Adeiladwaith Net Sero.

Roedd Richard Hawkins o SO Modular wrth ei fodd yn mynychu a dywedodd: “Mae’n wych bod yng Ngholeg Castell-nedd heddiw i weld ystod o wahanol gwmnïau ag ystod eang o wahanol dechnolegau yn hyrwyddo Sero Net ac yn hyrwyddo hynny i ddyfodol y diwydiannau adeiladwaith a pheirianneg”.

Aeth Jonathan Morris o Tai Tarian ymlaen i ddweud: “Mae Sero Net yn broblem enfawr o ran tai, mae angen gwerth dros £4 biliwn o waith yn y sector tai cymdeithasol yn unig i ddod â’r tai i safon sero net. O hynny daw sgiliau a hyfforddiant a chyfleoedd gwaith a chyflogaeth i nifer helaeth o bobl, os byddwn yn achub ar y cyfle hwnnw yn eiddgar.”

Yn ogystal, roedd myfyrwyr yn gallu ‘cymryd rhan’ a rhoi cynnig ar rai gweithgareddau difyr megis beiciau pŵer pedal sy’n pweru system gerddoriaeth wrth gael eu pedlo, y dechnoleg VR ddiweddaraf a Thŷ ECO o fenter ‘Rhowch Gynnig Arni’ Llywodraeth Cymru.

Roedd James Rowlands-Lean, myfyriwr Peirianneg Lefel 3, yn awyddus i roi ei adborth ar y gynhadledd, a meddai: “Mae wedi bod yn ddigwyddiad hynod ddiddorol, addysgiadol iawn. Mae yna lawer o sgôp o fewn y sector penodol hwn a allai fod o fudd i’r rhai sy’n mynd trwy’r un cwrs â minnau. Mae llawer o gyfleoedd gwahanol wedi’u cyflwyno yma gyda llawer o ffyrdd y mae cwmnïau’n datblygu swyddi newydd o fewn y diwydiant, a fydd yn hynod fuddiol i genedlaethau’r dyfodol.”

I gael gwybod am ein hymrwymiad i ddyfodol Sero Net, ewch i’n Hacademi Net Sero.

Academi Sero Net