Llwyddiant i Ddarlithwyr yn y Gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid

Enillwyd gwobrau gan ddau ddarlithydd Grŵp Colegau NPTC yn y Gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid a gynhaliwyd yr wythnos hon yn y Senedd yng Nghaerdydd.

Dathlodd y seremoni gyflawniadau tiwtoriaid a mentoriaid rhagorol ar draws Cymru. I ennill gwobr, roedd gofyn i’r unigolyn a enwebwyd ddangos ymrwymiad ac awydd rhagorol i annog, cefnogi a dysgu dysgwyr sy’n oedolion yn eu cymuned neu yn y gweithle.

Martin White sef Rheolwr Ffreuturiau’r Coleg yw’r cyntaf o’n henillwyr. Cafodd Martin ei enwebu gan Gyngor Sir Powys yn y categori Addysg Gymunedol am ei waith ar Gynllun Peilot Arlwyo ym Mhowys, menter ar y cyd rhwng Grŵp Colegau NPTC a Chyngor Sir Powys sy’n hyfforddi rhieni ym maes coginio ymarferol i’w galluogi i fantesio ar gyfleoedd swyddi rhan-amser a helpu i ddelio â diffyg staff arlwyo mewn ysgolion a cholegau ledled Powys.

Un o’r garfan ddemograffaidd y canolbwytiwyd arni oedd rhieni yn mynd â’u plant i’r ysgol bob bore.Teimlodd Martin ei bod yn bwysig dangos i’r rhieni bod swyddi ar gael iddynt yn ystod y diwrnod ysgol ac nad oes rhaid iddynt gael swydd gyda’r hwyr a chael trafferth gyda gofal plant o ganlyniad.

Mae Martin wedi bod yn gogydd am ugain mlynedd heb ddod o gefndir academaidd neu addysgu. Mae’r prosiect hwn wedi gofyn i Martin weithio y tu hwnt i’w barth cysur a rhoi cynnig ar addysgu am y tro cyntaf erioed.

Yn ogystal â rhoi cyfle i’r rhieni ddysgu sgiliau newydd, roedd sesiynau Martin yn eu helpu i gwrdd â phobl eraill gyda sefyllfaoedd tebyg trwy eu galluogi i gyfathrebu â phobl eraill, yn hytrach na mynd syth adref ar ôl mynd â’u plant i’r ysgol, yn ôl yr arfer.

Mae pawb sy’n cwblhau’r cwrs yn derbyn cymhwyster lefel 1 mewn Hylendid Bwyd a gofynnodd nifer o ddysgwyr i symud ymlaen i gwrs Lefel 2.  Mae un o’r dysgwyr wedi camu ymlaen i ymgeisio am swydd yn adran Arlwyo Cyngor Sir Powys.  Mae un arall wedi gwneud cais am gwrs Arlwyo amser llawn ac mae eraill wedi sefydlu clwb pitsa yn eu hysgolion.

I gael mwy o wybodaeth am Martin a’i wobr, gallwch wylio’r fideo isod.

Howard Wyn Jones sef Arweinydd Addysg Uwch ar gyfer HND mewn Gwasanaethau Cyhoeddus yn Academi Chwaraeon Llandarcy yw ein hail enillydd. Cafodd Wyn ei enwebu gan Victoria Burroughs a Barry Roberts sy’n Bennaeth Cynorthwyol: Addysg Uwch a Phennaeth Ysgol: Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus.

Enwebwyd Wyn am ei waith ardderchog yn darparu Gwasanaethau Cyhoeddus Addysg Uwch (AU) a dangos arweinyddiaeth effeithiol a sgiliau cydweithredu, meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol a dod â’r tîm at ei gilydd i ddatblygu’r BA (Anrh) mewn Gwasanaethau Cyhoeddus cyntaf mewn Coleg Addysg Bellach yng Nghymru.

Mae gan Wyn gefndir yn y Gwasanaethau Ambiwlans ac mae hyn yn ei alluogi i fentora dysgwyr o gefndiroedd addysgol amrywiol yn effeithiol trwy ddod â phrofiad o weithio yn y diwydiant am 18 oed.

Mae Wyn yn parhau i gyfoethogi profiad dysgu’r myfyrwyr ac mae ef yn rhinwedd hynod werthfawr i’r tîm, sy’n creu cynifer o gyfleoedd dysgu rhagorol. Mae Wyn wedi ehangu mynediad i ddysgwyr ar draws Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe ac wedi cynyddu’r nifer o gyfranogwyr mewn AU sy’n dod o grwpiau heb ddigon o gynrychiolaeth gan wella eu huchelgeisiau a’u sgiliau addysgol, sydd yn gamp allweddol.

Mae Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr yn arolwg blynyddol gyda phroffil uchel sy’n cael ei gwblhau gan hanner miliwn o fyfyrwyr ar draws y DU. Derbyniodd y cwrs HND mewn Gwasanaethau Cyhoeddus yn Academi Chwaraeon Llandarcy 100 y cant Boddhad Cyffredinol am y chweched flwyddyn yn olynol. Dyma gyflawniad enfawr ac yn 23.1 y cant yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol. Mae hyn oll yn brawf o’r ymwybyddiaeth helaeth o ymrwymiad parhaus Wyn a’i holl gyfraniadau at AU a Dysgu Gydol Oes.

Un o amcanion Wyn wrth ymuno â’r coleg oedd dod ag AU i mewn i’r arena Gwasanaethau Cyhoeddus ac mae wedi llwyddo i wneud hyn erbyn hyn trwy ddarparu gradd BA Anrhydedd mewn Gwasanaethau Cyhoeddus. Yn ôl Wyn, os ydych yn gofyn y cwestiwn beth sydd yn ei ysbrydoli i ddod i mewn i’r coleg bob dydd, y myfyrwyr yw’r ateb: “Eu brwfrydedd, dyna’r peth, a’u parch a’u hawydd i ehangu eu gwybodaeth. Y gobaith yw ein bod yn eu hysbrydoli i wireddu eu breuddwydion”.

I gael mwy o wybodaeth am Wyn a’i wobr gallwch wylio’r fideo isod.