Undeb Myfyrwyr yn Ennill y Brif Wobr yng Nghynhadledd NUS Cymru 2025 am Ymdrechion Deiseb Cludiant

SU Students at thw Wellbeing festival

Roedd swyddogion Pwyllgor Gwaith Undeb y Myfyrwyr yn falch o gynrychioli Grŵp Colegau NPTC yng Nghynhadledd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (NUS) Cymru 2025, a gynhaliwyd yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn ddiweddar.

Yn ystod y digwyddiad, cymerodd swyddogion ran mewn amrywiaeth o weithdai a oedd yn canolbwyntio ar flaenoriaethau allweddol myfyrwyr, gan gynnwys ffioedd, cyllid a chludiant. Ymunon nhw hefyd â sesiynau gweithredu ymgyrchu fel Turn Up for 2026, menter sy’n annog ymgysylltiad myfyrwyr ag Etholiad y Senedd 2026 sydd ar ddod, lle buont yn cydweithio ag Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe i ennill gwobr y Fideo Gorau.

Defnyddiodd NUS Cymru y digwyddiad hefyd i lansio eu deiseb Cludiant Dydd Mawrth, rhan o ymgyrch ehangach yn annog Llywodraeth Cymru i ddarparu cludiant fforddiadwy, ddibynadwy a hygyrch i bob myfyriwr. Er mwyn annog cyfranogiad myfyrwyr, cyflwynodd NUS Cymru fwrdd enillwyr gyda gwobrau ar gyfer y sefydliadau Addysg Bellach ac Uwch a sicrhaodd y nifer fwyaf o lofnodion ar y ddeiseb.

Cefnogodd Undeb Myfyrwyr Grŵp Colegau NPTC yr ymgyrch yn frwdfrydig trwy gynnal stondin ddeiseb yn ystod digwyddiad Gŵyl Llesiant y Coleg. Gyda nifer uchel o fyfyrwyr yn bresennol, roedd yn gyfle perffaith i ledaenu ymwybyddiaeth a chasglu cefnogaeth. Cafodd yr ymgyrch ei hyrwyddo ymhellach trwy ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a chan gynrychiolwyr dosbarth ar draws campysau.

Diolch i’r ymdrechion ar y cyd hyn, sicrhaodd Undeb Myfyrwyr Grŵp Colegau NPTC y nifer uchaf o lofnodion deiseb myfyrwyr o unrhyw sefydliad trydyddol yng Nghymru, gan ennill y brif wobr!

Llongyfarchiadau arbennig i Imaan Iqbal, Swyddog Undeb Myfyrwyr yng Ngholeg Castell-nedd, ac Owen Davies, Cynrychiolydd Dosbarth ar gyfer Atgyweirio Cyrff Cerbydau Modur yng Ngholeg Pontardawe, am eu harweinyddiaeth eithriadol ar y campws. I gydnabod eu hymdrechion, mae’r ddau fyfyriwr wedi derbyn talebau Love2Shop.

Rhannodd Ellie Mayo-Ward, Rheolwr Ymgyrchoedd a Dylanwadu yn NUS Cymru, ei gwerthfawrogiad:

“Diolch yn fawr iawn am gymryd rhan yn ein digwyddiad Cludiant Dydd Mawrth NUS Cymru i annog myfyrwyr i lofnodi ein deiseb cludiant. Mae eich ymdrechion ymgyrchu yn golygu y gallwn ddangos pa mor eang y mae trafnidiaeth yn effeithio ar fyfyrwyr ledled Cymru, gan ein helpu i lobïo Llywodraeth Cymru yn fwy effeithiol.”