Cynhaliwyd Seremoni Wobrwyo 2025 Grŵp Colegau NPTC ar ddydd Mercher, 21 Mai, yn dathlu cyflawniadau rhagorol gan fyfyrwyr ar draws Grŵp Colegau NPTC.
Roedd mwy na chant o fyfyrwyr, staff a gwesteion arbennig yn y digwyddiad a gynhaliwyd yn y Gwesty Glyn Clydach yng Nghastell-nedd. Cyflwynwyd gwobrau mewn amrywiaeth o gategorïau, yn cynnwys anrhydeddau rhyngwladol a sirol, cynrychioli’r coleg, y chwaraewyr a oedd wedi gwella mwyaf oll, Sbortsmon a Sbortswraig y Flwyddyn a thystysgrifau cyflawni ar gyfer myfyrwyr Chwaraeon elitaidd. Dan Edwards sef seren y byd rygbi i Gymru a’r Gweilch a chyn-fyfyriwr Grŵp Colegau NPTC oedd y gwestai arbennig ac fe gyflwynodd wobr i bob enillydd gan fynegi ei longyfarchiadau a negeseuon i’w cefnogi.
Dywedodd Sali-Ann Millward, Pennaeth yr Ysgol Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus:
“Roedd y Seremoni Wobrwyo Flynyddol eleni yn ddathliad ffantastig o’r ddawn anhygoel sy’ gyda ni ar draws y coleg. Roedd yn ysbrydoledig gweld cynifer o fyfyrwyr yn cael eu cydnabod am eu cyflawniadau ac mae hyn yn adlewyrchiad gwir o’u hymrwymiad a’u cymorth di-ffael a’r gwaith caled gan ein staff yn y cefndir.”
Yn ystod y noson, cyflwynwyd bwrsariaethau hefyd ar gyfer y myfyrwyr a berfformiodd ar y brig, capiau ColegauCymru a Gwobrau Tîm yn ogystal â Gwobrau Cydnabyddiaeth Llysgenhadon Aur Gwasanaeth Gweithgarwch Corfforol a Chwaraeon (GGCC Castell-nedd Port Talbot). Cyflwynwyd y Wobr Kieran Sparrow Gwobr mewn cydnabyddiaeth o gyflawniadau academaidd a dawn ym maes chwaraeon ac er cof cyn-fyfyriwr galluog a thalentog.
Cyflwynwyd gwobrau i’r myfyrwyr canlynol:
Pêl-droediwr y Flwyddyn – Dynion (Tîm 1af) – Charlie Nicholas
Pêl-droediwr y Flwyddyn sydd wedi gwella mwyaf oll – Dynion (Tîm 1af) – Harri Jenkins
Pêl-droediwr y Flwyddyn – Dynion (2ail Dîm) – Harley Lewis
Pêl-droediwr y Flwyddyn sydd wedi gwella mwyaf oll – Dynion (2ail Dîm) – Reilly Piper
Pêl-droediwr y Flwyddyn – Menywod – Grace John
Pêl-droediwr y Flwyddyn sydd wedi gwella mwyaf oll – Menywod – Libby Shepperd
Chwaraewr Rygbi’r Flwyddyn – Dynion – Dan Murnane
Chwaraewr Rygbi’r Flwyddyn sydd wedi gwella mwyaf oll – Dynion – Evan Puckett
Chwaraewr Rygbi’r Flwyddyn – Menywod – Abi Pritchard
Chwaraewr Pêl-rwyd y Flwyddyn (Tîm 1af) – Naomi Tristram
Chwaraewr Pêl-rwyd y Flwyddyn sydd wedi gwella mwyaf oll (Tîm 1af) – Megan Hamer
Chwaraewr Pêl-rwyd y Flwyddyn (2ail Dîm) – Kelsey Davies
Chwaraewr Pêl-rwyd y Flwyddyn sydd wedi gwella mwyaf oll (2ail Dîm) – Katie Eneema
Chwaraewr Criced y Flwyddyn – Tomos Evans
Athletwr y Flwyddyn – Joe Girling
Gwobr Dug Caeredin (DofE) Myfyriwr y Flwyddyn – Tia Thurman
Gwobrau Cydnabyddiaeth Llysgennad Aur GGCC Castell-nedd Port Talbot – Millie Blake a Tomas Evans
Sbortswraig y Flwyddyn
Enwebiadau – Ffion Clarke, Bronwen Donovan, Gracie Hurley
Enillydd – Bronwen Donovan
Sbortsmon y Flwyddyn
Enwebiadau – Tomas Evans, Dylan Packer, Thomas Loynes
Enillydd – Thomas Loynes
Gwobr Kieran Sparrow – Millie Blake