Hyrwyddo’r Iaith Gymraeg yng Ngrŵp Colegau NPTC

Jacinta Jolly with her collection of Welsh books

Mae Jacinta Jolly, Dirprwy Bennaeth Gwasanaethau Llyfrgell (Gogledd), wedi cyrraedd rhestr fer y categori Siaradwr Cymraeg Newydd yng Ngwobrau  Ysbrydoli! Addysg Oedolion 2025. Ers ymuno â’r cynllun Cymraeg Gwaith yn 2022, mae Jacinta wedi dangos ymrwymiad eithriadol i ddysgu a hyrwyddo’r iaith Gymraeg yn ei gweithle a’i bywyd personol.

Trefnir y Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru a phartneriaid eraill. Maent yn dathlu cyflawniadau unigolion, prosiectau a sefydliadau eithriadol sy’n dangos pŵer dysgu i drawsnewid bywydau a chymunedau.

Yn wreiddiol o Awstralia, symudodd Jacinta i Gymru gyda’i gŵr a’i mab ddau ddegawd yn ôl. Hyd yn oed cyn symud, roedd ei brwdfrydedd dros yr iaith Gymraeg yn a phrynodd eiriadur Cymraeg a’r albwm Mwng gan Super Furry Animals. Er bod ymrwymiadau teuluol yn golygu bod ei hymdrechion cynnar i astudio’r Gymraeg wedi cael eu gohirio, ni ddiflannodd ei hangerdd erioed. Yn 2022, dychwelodd i astudio ffurfiol gyda phenderfyniad newydd. Ar ôl cwblhau’r arholiad Lefel Mynediad: Defnyddio’r Gymraeg yn llwyddiannus yn 2024, mae hi bellach yn gweithio tuag at yr arholiad Lefel Sylfaen yn 2026, gydag uchelgais i barhau i symud ymlaen i lefel Ganolradd a thu hwnt.

Mae cariad Jacinta at y Gymraeg wedi’i wreiddio’n ddwfn yn ei rôl broffesiynol. Yn llyfrgelloedd y Drenewydd a Bannau Brycheiniog, mae hi’n sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn weladwy ac yn cael ei dathlu. O arddangosfeydd dwyieithog i hyrwyddo digwyddiadau Cymraeg fel Defnyddiwch Eich Cymraeg, Diwrnod Shwmae Su’mae, a Diwrnod Miwsig Cymru, mae hi’n gweithio’n ddiflino i greu amgylchedd dwyieithog croesawgar i fyfyrwyr a staff. Mae hi hefyd yn curadu casgliadau o lyfrau Cymraeg newydd a chyfoes sy’n addas ar gyfer siaradwyr rhugl a dysgwyr, gan annog mwy o bobl i ymgysylltu â’r iaith drwy lenyddiaeth.

Y tu hwnt i’w gweithle, mae Jacinta yn cofleidio diwylliant Cymru yn llwyr. Mae hi’n mynychu gigs a gwyliau Cymreig yn rheolaidd fel Trawsnewydd ac Ara Deg, yn mwynhau darllen llyfrau Cymraeg, ac yn cyfrannu erthyglau i’r cylchgrawn ar-lein Y Wennol. Gartref ac yn ei chymuned, mae hi’n manteisio ar bob cyfle i ymarfer ei Chymraeg, boed yn sgwrsio gyda theulu a ffrindiau, yn gwrando ar Radio Cymru, neu’n gwylio dramâu S4C. “Rwy’n teimlo’n falch bob tro rwy’n darllen llyfr Cymraeg, yn siarad â myfyriwr, neu’n siarad yn Gymraeg mewn gig. Dw i’n teimlo fel fy mod i’n perthyn yma!

Mae ei hymdrechion wedi mynd ymhell y tu hwnt i’w thaith ddysgu ei hun. Mae hi wedi rhoi hyfforddiant i gydweithwyr ar ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle, wedi trefnu digwyddiadau diddorol fel arddangosfeydd coridor ar gyfer Defnyddiwch Eich Cymraeg, a hyd yn oed creu TikToks i hyrwyddo’r iaith. Mae ei brwdfrydedd a’i chreadigrwydd yn amlwg i bawb, ac mae hi wedi cael gwahoddiad i ymuno â Gweithgor Dwyieithog y coleg, gan helpu i lunio dyfodol dwyieithrwydd yng Ngrŵp Colegau NPTC.

Gwnaeth ei thiwtor Cymraeg Gwaith, a’i henwebodd ar gyfer y Wobr Ysbrydoli!,  ganmol ei chynnydd: “Ers ymuno â’r cwrs lefel Mynediad yn 2022, mae Jacinta wedi gwneud cynnydd rhyfeddol. Mae hi’n ddysgwr hyderus a brwdfrydig sy’n defnyddio ei sgiliau newydd i hyrwyddo’r Gymraeg a dwyieithrwydd yn y gweithle. Mae ganddi’r cymhelliant i ddod yn siaradwr rhugl ac i wneud gwahaniaeth i fyfyrwyr, y Coleg, a’r gymuned ehangach.”

I Jacinta, mae dysgu Cymraeg wedi bod yn brofiad trawsnewidiol: “I unrhyw un sy’n dymuno dysgu Cymraeg, byddwn i’n dweud ewch amdani, mwynhewch y daith, a pheidiwch â phoeni os yw eich camau cyntaf yn fach.”

Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am Gymraeg Gwaith, anfonwch e-bost at Llinos.Davies@nptcgroup.ac.uk