Grŵp Colegau NPTC yn Falch o Gefnogi Gwobrau Busnes Powys 2025

Students and staff at the Powys Business awards

Cafodd Grŵp Colegau NPTC yr anrhydedd o fod yn un o noddwyr Gwobrau Busnes Powys 2025, a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Theatr Hafren, Y Drenewydd. Mae’r digwyddiad mawreddog yn dathlu arloesedd, gwydnwch a llwyddiant busnesau ledled Powys, ac roedd seremoni eleni yn arddangosfa fywiog o fenter ac ysbryd cymunedol.

Trefnir y digwyddiad gan Mid Wales Manufacturing Group (MWMG) gyda chymorth gan noddwyr. Enillwyd gwobr gyffredinol Gwobr Busnes y Flwyddyn Powys 2025, a noddwyd gan Gyngor Sir Powys, gan Gyfreithwyr Harrisons.

Fel rhan o’i nawdd, cyflwynodd Grŵp Colegau NPTC y Wobr Datblygu Pobl, a enillwyd hefyd gan Gyfreithwyr Harrisons. Cyflwynwyd y wobr gan Catherine Lewis, Pennaeth, Dirprwy Brif Weithredwr Grŵp NPTC, a ganmolodd y noson fel “dathliad gwych o’r dalent a’r uchelgais sy’n ffynnu yma ym Mhowys”.

Yn ogystal â noddi’r digwyddiad, chwaraeodd yr adran arlwyo yng Ngholeg Y Drenewydd ran ganolog yn ei lwyddiant. O dan arweiniad arbenigol y Prif Gogydd Shaun Bailey, y darlithwyr Arlwyo Jordan Dunt ac Erika Jones a’r darlithydd lletygarwch Linda Williams, paratôdd, coginiodd a gweinodd fyfyrwyr arlwyo bryd tri chwrs blasus i dros 235 o westeion. Darparodd y tîm, dan arweiniad Sue Lloyd-Jones, Pennaeth yr Ysgol Arlwyo, Amaethyddiaeth a Garddwriaeth, wasanaeth eithriadol drwy gydol y noson.

“Rydym yn hynod falch o’n myfyrwyr a’n staff a ddangosodd eu proffesiynoldeb, eu gwaith tîm, a’u talent coginio ar lwyfan mor fawr,” meddai Catherine Lewis. “Roedd eu cyfraniad at y noson yn rhagorol, ac roedd yn hyfryd gweld ein dysgwyr yn cael profiad yn y byd go iawn wrth gefnogi digwyddiad mor bwysig. Nid yn unig y mae Gwobrau Busnes Powys yn dathlu llwyddiant busnes ond maent hefyd yn tynnu sylw at werth addysg a datblygu sgiliau yn ein rhanbarth.”

Roedd y noson yn cynnwys y siaradwraig wadd Lowri Morgan, cyflwynydd teledu Cymraeg, anturiaethwr a rhedwr marathonau ultra ac adloniant gan dîm bhangra o Fanceinion gyda’u drymwyr a dawnswyr dhol yn ychwanegu naws ddiwylliannol fywiog at y dathliadau.

Mae Grŵp Colegau NPTC yn parhau i fod wedi ymrwymo i gefnogi mentrau lleol, datblygu talent y dyfodol, a chreu cyfleoedd i ddysgwyr ddisgleirio yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt.