Diwrnod y Rhuban Gwyn 2025

CEO Mark Dacey signing the White Ribbon Pledge

Mae Grŵp Colegau NPTC yn falch o gyhoeddi ei ymrwymiad parhaus i atal aflonyddu, camdriniaeth a thrais yn erbyn menywod a merched trwy gefnogi Diwrnod y Rhuban Gwyn, ddydd Mawrth 25 Tachwedd. Fel y coleg cyntaf yng Nghymru i ddal achrediad  o fri’r Rhuban Gwyn, mae Grŵp Colegau NPTC yn dangos ei ymrwymiad i hyrwyddo cydraddoldeb rhywedd, codi ymwybyddiaeth a sicrhau bod menywod a dynion yn rhan o’r datrysiad.

I nodi’r diwrnod pwysig hwn, roedd ardal ddynodedig ym mhrif dderbynfa bob safle’r coleg lle yr oedd partneriaid gwasanaeth allanol yn ymuno â staff a myfyrwyr y coleg i godi ymwybyddiaeth am yr ymgyrch. Roedd yr ardaloedd hyn yn ganolfannau ar gyfer gwybodaeth a chymorth, gan feithrin deialog ar draws y gymuned am bwysigrwydd roi terfyn ar drais sy’n seiliedig ar rywedd.

Rhannodd Mark Dacey Prif Weithredwr Grŵp Colegau NPTC ei feddyliau am arwyddocâd cefnogi elusen y Rhuban Gwyn:

“Yng Ngrŵp Colegau NPTC rydyn ni’n sefyll gyda’n gilydd i gefnogi Diwrnod y Rhuban Gwyn a’i neges gadarn: #SpeakUp. Mae anwybyddu rhagfarn rhyw, boed trwy jôcs, sylwadau neu ymddygiadau bob dydd yn rhoi menywod a merched mewn perygl.  Gall y gweithrediadau hyn ymddangos yn ddibwys ond maen nhw’n cyfrannu at ddiwylliant sy’n derbyn diffyg parch a chamdriniaeth yn y pendraw.

Eleni, fel Llysgennad y Rhuban Gwyn rwy’n erfyn pob dyn i ddefnyddio ei lais. Nid yw dweud eich dweud bob amser yn hawdd, ond mae’n hanfodol. Bob tro rydyn ni’n herio ymddygiad amhriodol, rydyn ni’n helpu i greu byd mwy diogel a mwy parchus.  Mae dweud dim byd yn galluogi niwed i barhau; mae siarad yn blwmp ac yn blaen yn gosod gwell esiampl. Gyda’n gilydd, gadewch i ni greu diwylliant lle y mae pawb yn teimlo’n ddiogel, yn gyfartal ac yn werthfawr.”

Mae Grŵp Colegau NPTC yn gwahodd ein holl fyfyrwyr, staff a’r gymuned i ymuno â ni yn yr ymgyrch allweddol hwn. Gyda’n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth ac anelu at ddyfodol heb drais a gwahaniaethu.

Rhuban Gwyn