Hyfforddiant Gofal Canser ar gyfer Myfyrwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cafodd myfyrwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol Coleg Y Drenewydd fudd o wers werthfawr debyg i fywyd yr wythnos hon ar ôl cael hyfforddiant arbenigol ym maes gofal canser a ddarparwyd gan yr Ymddiriedolaeth Lingen Davies.

Cymerodd myfyrwyr Blwyddyn 1 Iechyd a Gofal Cymdeithasol ran mewn sesiwn hyfforddi dymunol llawn gwybodaeth a arweiniwyd gan Helen Davies, Cydgysylltydd Hyrwyddwyr Canser Powys ac Isobel Onions, Cydgysylltydd Prosiect Livelife o’r Ymddiriedolaeth Lingen Davies. Cyflwynwyd y sesiwn egwyddorion allweddol ac ymwybyddiaeth o ofal canser i fyfyrwyr, sy’n wybodaeth hanfodol ar gyfer y rheiny sy’n ymbaratoi ar gyfer gyrfaoedd ar draws gwasanaethau ym meysydd iechyd, gofal a’r gymuned.

Roedd myfyrwyr Blwyddyn 2 hefyd yn cymryd rhan, gan ddiweddaru eu hyfforddiant mewn gofal canser i sicrhau bod eu gwybodaeth yn dal yn gyfredol ac yn unol ag arfer da yn y sector. Mae’r sesiynau gloywi hyn yn cefnogi myfyrwyr wrth iddynt symud ymlaen i gyflogaeth, prentisiaethau neu astudiaethau bellach o fewn i swyddi iechyd a gofal cymdeithasol.

Darparwyd yr hyfforddiant yn y parth myfyrwyr a gafodd ei ddatblygu’n ddiweddar, man penodedig a grëwyd gan y myfyrwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol eu hun.  Dyluniwyd y parth hwn i ddarparu gwybodaeth ddibynadwy ac arweiniad i staff a myfyrwyr ar ystod eang o faterion iechyd corfforol a llesiant, gan arddangos natur weithredol ac ymarferol y cwrs.

Mae cyfleoedd fel hyn yn adlewyrchu’r pwyslais mawr a roddir ar ymgysylltu â myfyrwyr, mewnwelediad proffesiynol a dysgu yn y byd go iawn gan y rhaglen Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sy’n sicrhau bod myfyrwyr yn datblygu gwybodaeth academaidd ond hefyd yr hyder a’r ddealltwriaeth ofynnol i gefnogi unigolion o fewn i leoliadau gofal iechyd a’r gymuned.

Mae’r coleg yn ddiolchgar i’r Ymddiriedolaeth Lingen Davies am ei gymorth parhaus ac am helpu i roi’r sgiliau, yr ymwybyddiaeth a’r trugaredd sydd eu hangen ar fyfyrwyr i gael effaith gadarnhaol yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.