Myfyrwyr Safon Uwch yn Cynrychioli Colegau Cymru

Welsh Colleges football team photo before a game

Mae myfyrwyr yng Ngrŵp Colegau NPTC yn parhau i gyflawni llwyddiant yn academaidd ac ar y maes hefyd, gyda Grace John ac Ellie Gibbins yn ennill yr anrhydedd o gynrychioli Colegau Cymru mewn pêl-droed.

Mae Grace, maeswr canol, ac Ellie, saethwr, wedi dangos ymrwymiad rhagorol i’w chwaraeon, yn cydbwyso gofynion hyfforddiant ar lefel uchel, ynghyd â chystadlu, ochr yn ochr â’u hastudiaethau yn y coleg.

Mae cynrychioli Colegau Cymru yn gamp arwyddocaol, yn darparu cyfleoedd i gystadlu ar safon uchel, ar yr un pryd â datblygu sgiliau allweddol fel gwaith tîm, cyfathrebu a disgyblaeth. Trwy gyfranogi at bêl-droed, mae Grace ac Ellie wedi parhau i herio eu hunain, wrth ennill profiad gwerth chweil a hyder mewn amgylchedd cystadleuol.

Ochr yn ochr â’u llwyddiant mewn chwaraeon, mae’r ddwy yn gweithio’n galed ar eu hastudiaethau academaidd.  Ar hyn o bryd, mae Grace yn astudio cymwysterau Safon Uwch mewn Cemeg, Bioleg a Daearyddiaeth, tra bod Ellie yn astudio Safon Uwch mewn Addysg Gorfforol yn ogystal â Throseddeg a Seicoleg ar lefel UG.  Mae eu hymrwymiad i’w hastudiaethau a’u chwaraeon yn arddangos eu hagwedd gadarnhaol tuag at waith, ynghyd â’u hymroddiad i ddatblygiad personol.

Mae cydbwyso astudiaethau ac amserlenni hyfforddi a’u hastudiaethau yn gofyn am sgiliau rheoli amser yn ofalus, bod yn drefnus a dangos dyfalbarhad, sgiliau sy’n cael eu cryfhau drwy’r amser o ganlyniad i’w hymrwymiadau deuol.

Mae’r ddwy ohonynt wedi tynnu sylw at bwysigrwydd y cymorth sydd wrth law gan staff y coleg sydd wedi eu helpu i gadw ar y trywydd cywir gyda’u hastudiaethau wrth gystadlu ar lefel uchel. Roedd y cymorth hwn yn eu galluogi i reoli terfynau amser, dal lan pryd bynnag y bo’r angen a chynnal cynnydd academaidd cadarn ochr yn ochr â’u cyflawniadau ym maes chwaraeon.

Fel llawer o athletwyr, roedd yn rhaid i Grace ac Ellie gael y gorau o heriau ar hyd y ffordd, yn arbennig gorfod cydbwyso gofynion corfforol a seicolegol chwaraeon, law yn llaw â disgwyliadau astudio.  Mae eu gallu i gadw eu ffocws a’u cymhelliant yn adlewyrchu eu penderfyniad i lwyddo yn y ddau faes.

Maent hefyd yn annog myfyrwyr eraill i fanteisio ar gyfleoedd cynrychioli ym maes chwaraeon, trwy bwysleisio pwysigrwydd gwaith caled, ymrwymiad a mynd y tu hwnt i’ch parth cysur. Mae eu profiadau yn dangos bod y daith yn gallu bod yn ond drom ond mae’r gwobrwyon a’r synnwyr cyflawni yn gwneud popeth yn werth chweil.

Wrth edrych ymlaen at y dyfodol, mae’r ddwy yn gobeithio symud ymlaen ym maes pêl-droed ar yr un pryd â gweithio tuag at eu huchelgeisiau yn y dyfodol.

Mae eu cyfranogiad at bêl-droed Colegau Cymru yn darparu llwyfan cadarn i adeiladu profiad, hyder a chyfleoedd bellach o fewn i’r maes.

Mae cymorth gan staff yng Ngrŵp Colegau NPTC wedi chwarae rhan annatod wrth eu helpu i lwyddo, gydag arweiniad a hygyrchedd yn eu galluogi i gadw ar y trywydd cywir o ran eu hastudiaethau, wrth hefyd yn dilyn eu huchelgeisiau o ran pêl-droed.

Rhiannon Simms yw hyfforddwr pêl-droed y merched yn y Coleg a dywedodd hyn am y ddwy ohonynt:

“Mae Ellie a Grace wedi bod yn arweinwyr rhagorol dros dîm pêl-droed y Coleg dan ddod ag egni parhaus, brwdfrydedd a chymorth i’w cyd-chwaraewyr.  Mae cael eu dethol ar gyfer y tîm Colegau Cymru, proses hynod o gystadleuol, yn dystiolaeth o’u sgiliau, ymrwymiad a chymeriad. Maent yn cydbwyso perfformiadau ar lefel uchel a safonau academaidd rhagorol, a gyda Grace yn symud ymlaen i astudio meddygaeth ac Ellie yn camu ymlaen i astudio chwaraeon a therapi ymarfer corff, maent yn fodelau rôl a llysgenhadon go iawn ar gyfer y coleg.”

Mae eu cyflawniadau yn tynnu sylw at yr ystod eang o gyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr yn y Coleg, lle y mae unigolion yn cael eu hannog i ddatblygu eu doniau ac anelu at lwyddo yn yr ystafell ddosbarth a thu allan iddi.

Wrth barhau ar hyd eu teithiau, bydd Grace ac Ellie yn anelu at adeiladu ar y profiad hwn, gan fynd ati i gamu ymlaen yn eu gweithgareddau chwaraeon a pharhau i symud ymlaen ym myd addysg ac o ran eu datblygiad personol.

Students Ellie and Grace after representing Welsh Colleges in their kits