Busnes A Chyflogwyr

Beth bynnag yw maint eich cwmni, mae gweithlu medrus, wedi eu hyfforddi’n dda, yn hybu cynhyrchiant a pherfformiad.

Grŵp Colegau NPTC yw un o’r darparwyr addysg bellach mwyaf yng Nghymru gan feddu ar gyfoeth o brofiad o weithio gyda busnesau i gefnogi eu hanghenion datblygu.

Rydym yn gweithio gyda busnesau o bob maint i ddarparu hyfforddiant penodol i gefnogi eu gofynion unigol. Mae’r coleg yn cynnig amrywiaeth o brentisiaethau, amrywiaeth eang o gyrsiau proffesiynol a galwedigaethol yn ogystal â chyrsiau gradd, ôl-raddedig a deddfwriaethol.

Gyda’ch busnes mewn golwg, byddwn yn teilwra atebion i hybu eich cwmni ymlaen a chynyddu’ch cynhyrchiant. Byddwch yn cael un pwynt cyswllt wrth i’n tîm datblygu busnes ymrwymedig weithio gyda’ch cwmni i ganfod eich anghenion hyfforddi, sicrhau bod eich staff yn derbyn unrhyw hyfforddiant  neu ddatblygiad angenrheidiol er mwyn gwella perfformiad eich busnes.

Rydym yn cynnig cymorth perthnasol, hyfforddiant helaeth, atebion recriwtio arloesol a chymorth i gael mynediad i gyllid, gan gynnwys grantiau’r llywodraeth.

Mae ein staff yn weithwyr proffesiynol cymwys iawn sydd â phrofiad helaeth yn y diwydiant a gwybodaeth drwyadl am y sector diwydiant sy’n sicrhau bod ein hyfforddiant yn rhoi’r holl sgiliau cyfredol a’r wybodaeth sydd ei hangen i’ch staff i weithio’n hyderus ac yn effeithiol.

Gyda llu o leoliadau hyfforddi ar draws Cymru, mae gennym seilwaith wedi’i hen sefydlu i ddarparu hyfforddiant hyblyg; fel arall, gellir darparu hyfforddiant ar y safle i gwrdd ag anghenion eich busnes.

Am fwy o wybodaeth anfonwch e-bost:business@nptcgroup.ac.uk